Ymchwilio i achos arall o lygredd yn yr Afon Teifi

  • Cyhoeddwyd
Pysgodyn marw
Disgrifiad o’r llun,

Mae degau o bysgod wedi'u lladd yn dilyn yr achos diweddaraf o lygredd

Mae pysgotwyr wedi galw ar Gyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau na fydd rhagor o lygredd yn llifo i Afon Teifi yn dilyn achos arall nos Iau.

Bu'r corff amgylcheddol yn ymchwilio i achos o lygredd yn Afon Plysgog, Cilgerran - afon sy'n llifo i mewn i'r Teifi.

Roedd lliw'r dŵr yn llwyd ac roedd degau o bysgod wedi eu lladd.

Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn ymwybodol o'r digwyddiad ac y byddan nhw'n cynnal ymchwiliad.

Daw'r achos diweddaraf yma dim ond tair wythnos ar ôl i Afon Dyfan, sydd hefyd yn llifo i'r Teifi, gael ei llygru pan lifodd dros 100,000 galwyn o slyri i'r dŵr o fferm laeth gerllaw.

'Dychrynllyd'

Dywedodd Dan Rogers, un o'r pysgotwyr ar yr afon: "Mae llond lle o bysgod wedi marw yma, ac mae'n eitha' amlwg bod pollution incident wedi bod.

"Does dim arogl ond o liw'r dŵr mae'n amlwg mai hynny sydd wedi digwydd eto.

"Dim ond tair wythnos ers yr un diwethaf - dyw e ddim yn jôc rhagor.

"Mae'r amser wedi dod nawr, mae'n rhaid gwneud rhywbeth, mae hyn yn ddychrynllyd."

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Dan Rogers nad oes arogl, ond ei bod yn amlwg yn achos o lygredd oherwydd lliw'r dŵr

Mae'n debyg bod nifer o'r pysgod a laddwyd ddydd Iau yn frithyll, oedd yn barod i'w dal.

"Ni wedi colli afon fach dda nawr," meddai Mr Rogers.

"Ni'n galw ar CNC i wneud rhywbeth. Dyw hyn ddim yn ddigon da. Mae'n dorcalonnus beth sydd wedi digwydd yma."