Gweinidog yn beio 'ffermio gwael' am lygredd afonydd

  • Cyhoeddwyd
PysgodFfynhonnell y llun, Steffan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd yr holl eog a brithyll môr ar hyd dwy filltir o Afon Teifi eu lladd wedi llygredd difrifol yn 2016

Mae'r Ysgrifennydd Materion Gwledig wedi dweud wrth BBC Cymru bod maint y llygredd amaethyddol yn afonydd Cymru'n "destun embaras".

Dywedodd Lesley Griffiths fod arferion ffermio gwael yn golygu bod llawer o afonydd "heb bysgod o gwbl".

Daeth ei sylwadau wrth iddi gyhoeddi y byddai rheoliadau tynnach yn cael eu cyflwyno i'r diwydiant.

Bydd y rheiny'n cynnwys rheolau ar wasgaru a storio gwrtaith a slyri.

Croeso gan CNC

Dywedodd Ms Griffiths fod y camau yn dod yn sgil cynnydd yn nifer yr achosion o lygru difrifol eleni.

"Wrth i ni agosáu at y gaeaf rydw i eisoes yn derbyn adroddiadau o arferion gwael, ac mae disgwyl i nifer y digwyddiadau eleni fod yn uwch na ffigwr y llynedd," meddai.

"Mae hyn yn annerbyniol. Mae'n rhaid i'n cymunedau gwledig, sydd yn dibynnu ar y diwydiannau twristiaeth, pysgota a bwyd, gael eu gwarchod."

Bydd y rheoliadau newydd yn dod i rym ym mis Ionawr 2020, ond bydd rhai yn cael eu cyflwyno'n araf er mwyn caniatáu i ffermwyr addasu.

Ffynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Gwastraff yw un o'r achosion mwyaf cyffredin o lygredd mewn afonydd

Fe fyddan nhw'n cynnwys safonau newydd ar gyfer storio tail, a rheolau ynghylch pryd, ble a sut y mae gwrtaith yn cael ei wasgaru er mwyn ei atal rhag llifo i afonydd mewn tywydd gwlyb a glawog.

Wrth groesawu'r cyhoeddiad dywedodd Ruth Jenkins, pennaeth polisi rheoli adnoddau naturiol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru: "Mae rheoleiddio effeithiol yn un o amrywiaeth o ddulliau sydd ar gael i leihau nifer yr achosion o lygredd amaethyddol, gan leihau llygredd gwasgaredig ar yr un pryd.

"Ynghyd â mesurau gwirfoddol a chymhellion i fuddsoddi, bydd rheoleiddio yn helpu i wella ein hafonydd a chefnogi ffermio i fod yn ddiwydiant cynaliadwy a ffyniannus ar gyfer y dyfodol."

Rheolau llymach

Roedd grwpiau amgylcheddol wedi galw ar Ms Griffiths i ddynodi Cymru gyfan yn 'Barth Perygl Nitradau' (NVZ), fyddai wedi golygu amodau hyd yn oed llymach ar ffermwyr.

Mae gan lai na 3% o Gymru statws NVZ, o'i gymharu â 55% o Loegr, a Gogledd Iwerddon gyfan.

Ym mis Medi y llynedd fodd bynnag penderfynodd y gweinidog i beidio gwneud hynny, gan ddweud bod angen y "cydbwysedd cywir" o reoliadau, camau gwirfoddol, a buddsoddiad er mwyn taclo llygredd yn y diwydiant ffermio.

Ers hynny mae Llywodraeth Cymru wedi dod dan ragor o bwysau i weithredu, wedi i grwpiau afonydd gyflwyno cwyn swyddogol i'r Comisiwn Ewropeaidd.

Mae rheolau'r Undeb Ewropeaidd ar ddŵr glân yn dweud bod yn rhaid i wledydd gadw afonydd a llynnoedd mewn cyflwr da.

Mae gweinidogion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru eisoes wedi dweud y byddan nhw'n cadw'r safonau amgylcheddol hynny ar ôl Brexit.

Ond fe wnaeth adroddiad yn 2016 ar adnoddau naturiol Cymru awgrymu bod 63% o lwybrau dŵr ffres ddim yn cyrraedd y gofynion, ac mai dim ond un o bob chwech o gynefinoedd dŵr ffres oedd yn "ffafriol" i fywyd gwyllt.