Ymchwilio i 120,000 galwyn o slyri mewn afon ger Cilgerran
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwiliad wedi dechrau ar ôl i tua 120,000 o alwyni o slyri ollwng i Afon Dyfan yn ardal Cilgerran ger Aberteifi.
Dywed Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) bod ffermwr lleol wedi rhoi gwybod am y digwyddiad a'u bod wedi gweithredu yn syth er mwyn atal rhagor o slyri rhag cyrraedd y rhwydwaith afonydd.
Mae Afon Dyfan yn un o lednentydd Afon Teifi.
Mae adroddiadau fod pobl leol wedi gweld pysgod marw.
Dywedodd Bob Phillips, rheolwr tîm gyda CNC: "Mae llygredd slyri yn cael effaith niweidiol ar ein hafonydd a physgod, felly mae'n bwysig bod ffermwyr yn sicrhau fod eu storfeydd slyri yn cael eu cadw mewn modd diogel.
"Rydym yn parhau i weithio gyda'r diwydiant amaeth i rwystro achosion fel hyn, ac i sicrhau fod ffermwyr yn ymwybodol o beth i wneud pe bai yna ddamwain," meddai.

"Mae ein hymchwiliad i'r achos yn parhau ac mae'r ffermwr yn ein cynorthwyo.
"Fe fyddwn yn parhau i fonitro'r ardal, gan alw ar bobl leol i roi gwybod am unrhyw arwydd o lygredd i gysylltu ar 03000 653000."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd4 Ionawr 2019
- Cyhoeddwyd14 Tachwedd 2018
- Cyhoeddwyd14 Medi 2018
- Cyhoeddwyd6 Medi 2018