Cyhoeddi £4.3m i hyrwyddo'r Gymraeg mewn cymunedau lleol

  • Cyhoeddwyd
Cymraeg
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r arian yn cefnogi sefydliadau i hyrwyddo'r Gymraeg a chefnogi ffyniant yr iaith mewn cymunedau

Bydd £4.3m ar gael i hyrwyddo'r Gymraeg mewn cymunedau ledled Cymru dros y 12 mis nesaf, yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddodd Gweinidog y Gymraeg, Eluned Morgan, fod cyfanswm o 79 o sefydliadau wedi llwyddo i sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru.

Mae Urdd Gobaith Cymru, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Merched y Wawr, Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, a'r Mentrau Iaith ymhlith y sefydliadau a fydd yn derbyn cyllid.

Mae cronfa hefyd i gefnogi gwyliau cymunedol ledled Cymru ac yn parhau i ariannu 52 o bapurau bro.

Roedd yn ofynnol i'r ymgeiswyr llwyddiannus gyflwyno tystiolaeth ynghylch sut y byddan nhw'n cyfrannu at amcanion Cymraeg 2050, sef nod o sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.

Wrth gyhoeddi'r cyllid, dywedodd Ms Morgan y byddai'n "cefnogi ffyniant yr iaith mewn cymunedau ledled y wlad".

"Mae'r cyllid hwn yn sicrhau ein bod yn parhau i arloesi ac adeiladu ar sail arferion a phrosiectau llwyddiannus sy'n cynnig cyfleoedd i siaradwyr Cymraeg o bob math i ddefnyddio, rhannu a mwynhau'r iaith dros y flwyddyn i ddod ac am flynyddoedd i ddod."

Y rhestr lawn o'r sefydliadau sydd wedi bod yn llwyddiannus:

  • CFFI Cymru - £124,719

  • Cymdeithas Eisteddfodau Cymru - £46,036

  • Yr Eisteddfod Genedlaethol - £603,000

  • Merched y Wawr - £110,000

  • Mentrau Iaith Cymru - £160,000

  • Urdd Gobaith Cymru - £852,184

  • Cered - £120,626

  • Hunaniaith - £192,890

  • Menter Iaith Abertawe - £102,145

  • Menter Iaith BGTM - £118,332

  • Menter Bro Ogwr - £60,000

  • Menter Caerdydd a'r Fro - £206,736

  • Menter Caerffili - £95,552

  • Menter Iaith Casnewydd - £60,000

  • Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot - £77,415

  • Menter Iaith CNPT Cynllun Aman Tawe - £38,000

  • Menter Iaith Conwy - £105,570

  • Menter Iaith Sir Ddinbych - £81,583

  • Menter Iaith Merthyr - £60,000

  • Menter Môn - £133,060

  • Mentrau Iaith Powys - £132,591

  • Menter Iaith Rhondda Cynon Taf - £107,768

  • Menter Iaith Sir Benfro - £90,279

  • Mentrau Iaith Sir Gâr - £281,505

  • Mentrau Iaith Sir Gâr Cynllun Aman Tawe - £38,000

  • Mentrau Iaith Fflint a Wrecsam - £132,043

  • Cymdeithas Cyfieithwyr Cymru (CCC) - £50,000

  • Cronfa Papurau Bro - £97,810

  • Cronfa Gwyliau - £50,000

Pynciau cysylltiedig