Deddf Addysg yn 'hanfodol' er mwyn cael miliwn o siaradwyr
- Cyhoeddwyd
Mae cyflwyno Deddf Addysg Gymraeg yn "hanfodol" er mwyn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, medd Cymdeithas yr Iaith wrth iddyn nhw lansio cynllun ar gyfer deddf o'r fath yn y Senedd ddydd Mawrth.
Mae cynllun y Gymdeithas yn cynnwys gosod targedau lleol di-droi'n-ôl, gyda nod, dros amser, mai'r Gymraeg fyddai'r norm fel cyfrwng addysgu ar bob lefel o addysg.
Yn ôl Rebecca Williams o UCAC, "mae'r darpariaethau presennol yn rhy wan a thameidiog i fod yn effeithiol".
Dywed Llywodraeth Cymru bod y Gymraeg yn "rhan greiddiol" o'r cwricwlwm newydd sy'n cael ei gyhoeddi ddiwedd y mis a bydden nhw'n "croesawu sylwadau ar ei gynnwys".
Mae cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer cyrraedd miliwn o siaradwyr yn nodi bod angen i 70% o blant adael yr ysgol yn gallu siarad Cymraeg erbyn 2050.
Yn ôl Cymdeithas yr Iaith mae angen cynnydd o 2.5% bob blwyddyn er mwyn cyrraedd y targed hwnnw - cynnydd llawer uwch na'r twf o 0.05% y flwyddyn ers 2010.
'Mynd i'r cyfeiriad anghywir'
Dywedodd Cadeirydd Grŵp Addysg Cymdeithas yr Iaith, Mabli Siriol fod strategaethau blaenorol y Llywodraeth wedi methu.
"Methodd y Llywodraeth â chyrraedd eu targedau addysg a gafodd eu gosod yn ôl yn 2010 o bell ffordd - os unrhyw beth rydyn ni'n mynd i'r cyfeiriad anghywir ar hyn o bryd," meddai.
"Mae argyfwng o ran cynllunio a recriwtio'r gweithlu. Mae'n gwbl amlwg felly bod angen ail-ystyried yn llwyr y systemau presennol er mwyn gwireddu gweledigaeth y miliwn o siaradwyr."
Ychwanegodd Ms Williams: "Mae'n amlwg iawn erbyn hyn nad yw'r drefn bresennol o gynllunio ar gyfer addysg Gymraeg yn cydgordio â lefel ein huchelgais ar gyfer twf a gwelliant yn y system.
"Felly mae UCAC o'r farn bod yr amser wedi dod i gymryd y cam nesaf ar y llwybr - sef Deddf Addysg Gymraeg - gan adeiladu ar yr hyn a gyflawnwyd eisoes, er mwyn gweddnewid y system dros amser er budd dysgwyr Cymru."
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae cyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050 yn her sylweddol, ond mae'r newidiadau rydym yn eu gwneud i'n system addysg yn hanfodol os yr ydym am ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf i ddefnyddio'r iaith a chyrraedd y nod.
"Ar sail hyn, mae'r iaith Gymraeg yn rhan greiddiol o'n cwricwlwm newydd, a fydd yn cael ei gyhoeddi diwedd mis Ebrill ar gyfer adborth, ac yr ydym yn croesawu sylwadau ar ei gynnwys."
Bydd Cymdeithas yr Iaith hefyd yn cyhoeddi cymhwyster Cymraeg newydd i bob disgybl yng Nghymru yn y digwyddiad, hynny ar ôl derbyn cefnogaeth gan arbenigwyr addysg.
Maen nhw'n galw ar Lywodraeth Cymru i ariannu'r peilot, fel rhan o'r gwaith o ddatblygu'r cwricwlwm newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Mawrth 2019
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2019
- Cyhoeddwyd29 Mawrth 2019