Bwrw'r nenfwd

  • Cyhoeddwyd

Mae modd darllen gormod mewn i isetholiadau seneddol. Pe bawn i'n cael punt am bob gwawr ffug i'r Democrataid Rhyddfrydol fe fyddwn i'n ddyn reit gefnog erbyn hyn!

Ar ôl dweud hynny rwy'n meddwl bod isetholiad Peterborough yn ddadlennol, nid oherwydd yr hyn ddigwyddodd ond oherwydd yr hyn na ddigwyddodd.

Mae methiant Plaid Bregsit i gipio'r sedd yn awgrymu'n gryf bod plaid newydd Nigel Farage yn wynebu'r un broblem a'i hen un sef bod ganddi nenfwd ar ei chefnogaeth nad yw'n ddigon uchel i alluogi iddi lwyddo mewn etholiadau cyntaf i'r felin.

Nawr, i fod yn deg â'r blaid, fe gychwynnodd hi ymgyrchu yn Peterborough yn hwyr iawn yn y dydd, ar ôl i nifer fawr o bleidleisiau post gael eu bwrw. Serch hynny o gofio popeth oedd yn milwriaethu o'u plaid yn y dref fe fydd colli yn siom enfawr i'r Bregsitwyr.

Ystyriwch am eiliad. Fe ddaeth y blaid newydd allan o etholiadau Ewrop gyda momentwm eithriadol ac roedd ganddi gannoedd o filwyr traed ar lawr gwlad mewn tref lle pleidleisiodd trigain y cant o blaid gadael yr undeb Ewropeaidd.

Ar ben hynny cynhaliwyd yr etholiad yng nghanol berw ras arweinyddiaeth y Torïaid ac yn ystod cyfnod lle'r oedd lleisiau croch o fewn y blaid Lafur yn galw arni i gofleidio'r syniad o gynnal refferendwm arall eto. Gadewch i ni gofio hefyd bod yr etholiad yn cael ei gynnal ar ôl i'r aelod seneddol Llafur lleol gael ei charcharu am wyrdroi cwrs cyfiawnder.

Mae 'na ddau gwestion syml i Blaid Bregsit felly. Os nad Peterborough, lle? Ond nid nawr, pryd?

Mae'r canlyniad wrth gwrs yn golygu nad yw'r fathemateg seneddol wedi newid a dydyn ni ddim agosach at gyrraedd sefyllfa lle mae rhyw garfan neu'i gilydd yn gallu ennill mwyafrif i ryw gynllun neu'i gilydd ar lawr Tŷ'r Cyffredin.

Y dagfa honno sydd wedi arwain at y syniad y gallai Prif Weinidog newydd ofyn i'r Frenhines atal y Tŷ rhag cwrdd gan adael i Brydain gwympo mas o'r Undeb Ewropeaidd ar nos calan gaeaf.

Y person olaf i drial tric felly oedd Siarl y cyntaf ac, a bod yn garedig, wnaeth pethau ddim diweddu'n dda iddo!

Yn wir, pe bai Prif Weinidog yn gofyn i'r Frenhines atal senedd lle nad oedd gan y llywodraeth fwyafrif fe fydda 'na goblyn o argyfwng cyfansoddiadol yn ein hwynebu. Fe fyddai'n amgylchiad lle y byddai'n rhaid i'r Frenhines ystyried yn ofalus iawn p'un ai i dderbyn cyngor ei Phrif Weinidog ai peidio, sefyllfa sydd heb godi ers dyddiau'r Stiwardiaid.

Go brin yr awn ni lawr y llwybr hwnnw ond mae unrhyw beth yn bosib y dyddiau hyn!