Cyn-reolwr Casnewydd, Justin Edinburgh wedi marw yn 49 oed
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-hyfforddwr Casnewydd, Justin Edinburgh wedi marw yn 49 oed.
Cafodd ei ruthro i'r ysbyty ddydd Llun ar ôl cael trawiad ar y galon.
Ef oedd yn gyfrifol am sicrhau lle Casnewydd yn y Gynghrair Bêl-droed yn dilyn buddugoliaeth yn erbyn Wrecsam yn Wembley yn 2013.
Mae'n gadael gwraig a dau o blant.