Pryder am golli 180 o swyddi yn Allied Bakeries Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Allied BakeriesFfynhonnell y llun, Google
Disgrifiad o’r llun,

Dan y cynigion byddai hanner y gweithlu yng Nghaerdydd yn colli eu swyddi

Mae 180 o swyddi mewn perygl wedi i gwmni bwyd Allied Bakeries gyhoeddi y byddan nhw'n "ailstrwythuro" eu safle yng Nghaerdydd.

Cynnig y cwmni yw parhau i ddefnyddio'r safle fel canolfan ddosbarthu, ond byddai'r gwaith pobi yno yn dod i ben.

Byddai hynny yn rhoi swyddi 180 o'r 360 sy'n gweithio ar y safle yng ngogledd y brifddinas mewn perygl - hanner y gweithlu.

Dywedodd y cwmni y byddai'r gwaith pobi yn cael ei symud i safleoedd mwy, sydd â'r "gallu i gwrdd â galw cwsmeriaid".

Daw dair blynedd wedi i'r cwmni dorri 53 o swyddi yn eu safle yn Saltney, Sir y Fflint.

Colli cytundeb mawr

"Byddwn nawr yn dechrau ar gyfnod ymgynghori ble bydd ein hawgrymiadau yn cael eu hadolygu yn ofalus," meddai llefarydd.

Yn ôl Allied Bakeries fe wnaethon nhw golli cytundeb mawr yn gynharach eleni, wnaeth eu harwain at gynnal adolygiad o'u rhwydwaith o safleoedd.

Ychwanegodd y llefarydd: "Pe bai'r cynigion yma'n cael eu derbyn, yn anffodus byddai'n arwain at golli swyddi ac rydyn ni'n deall y bydd y cyhoeddiad yma'n un annifyr i'w glywed i'n cydweithwyr yng Nghaerdydd.

"Os yw'r newidiadau'n digwydd byddwn yn darparu cefnogaeth i unrhyw un sy'n cael eu heffeithio i'w helpu i ganfod swydd newydd - boed hynny ar safle arall Allied Bakeries neu rhywle arall yn y gymuned leol."

Dywedodd undeb sy'n cynrychioli gweithwyr y diwydiant (BFAWU) fod y newyddion yn "ddinistriol" i'r staff.

"Yn anffodus, mae bara yn dirywio yn y DU ac mae gormodedd o weithgynhyrchu bara yn golygu bod cau becws yn ganlyniad i hynny, ynghyd â'r manwerthwyr mawr sydd eisiau cynnyrch rhatach sy'n cael eu dylanwadu yn ôl cost yn hytrach nag ansawdd y cynnyrch."