Wele faner Gwalia'i fyny

  • Cyhoeddwyd

"Proud to be Welsh and proud to be British"

Pe bawn i'n cael peint am bob tro rwyf wedi clywed Carwyn Jones yn ynganu'r geiriau yna fe fyddwn i'n lywydd ar Undeb y Tancwyr erbyn hyn.

Fel Prif Weinidog roedd Carwyn yn cynnwys y geiriau yn ym mron pob un o'i areithiau i'r ffyddloniaid Llafur er mwyn lleddfu'r ofnau ei fod yn rhiw fath o 'nashi' cudd ond rwy'n amau bod pawb yn cymryd yr honiad o falchder Prydeinig gyda llond bwced o halen Môn! Yn sicr roeddwn i'n gwneud.

Yn y cyd-destun yna, dyw e ddim yn syndod enfawr i glywed y cyn Brif Weinidog yn cyfaddef nad yw ei wrthwynebiad i annibyniaeth yn seiliedig ar emosiwn ond mae ei benderfyniad i ddweud hynny nawr yn arwyddocaol.

Yn yr un modd mae parodrwydd Carwyn i ymddangos ar lwyfannau Llafur dros Annibyniaeth yn y gynhadledd Lafur a YesCymru yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ddadlennol.

Rwyf wedi ysgrifennu o'r blaen ynghylch Ffenest Overton, y syniad bod yna, ar unrhyw un adeg, ystod o bolisïau sy'n cael eu hystyried yn rhesymol a chymedrol gan yr etholwyr a bod modd symud y ffenest honno i'r chwith neu'r dde dros gyfnod o amser.

Mae gan bob plaid ei ffenest fewnol hefyd a does dim dwywaith bod y ffenest Lafur yng Nghymru wedi symud i gyfeiriad annibyniaeth. Nid barn fwyafrifol yw honno, wrth reswm, ond tan yn ddiweddar iawn fe fyddai unrhyw aelod Llafur oedd yn cefnogi'r syniad yn esgymun.

Berw Bregsit sydd wedi esgor ar y newid yn bennaf. Hynny yw, mae 'na deimlad bod hwn yn gyfnod lle dylai popeth fod ar y ford yn gyfansoddiadol. Ond peidiwch â diystyried effaith yr orymdaith ddiweddar gan AUOB Cymru chwaith. Mae unrhyw blaid yn gorfod bod yn sensitif i achos sy'n gallu denu torfeydd sylweddol.

Ar ôl dweud hynny oll, mae'n werth cofio mae cymysg yw tystiolaeth yr arolygon barn ynghylch y gefnogaeth i annibyniaeth gan ddibynnu i raddau ar yr union gwestiwn sy'n cael ei ofyn. Un peth sy'n sicr. Mae cefnogi annibyniaeth ymhell o fod yn safbwynt mwyafrifol gyda'r rhan fwyaf o arolygon yn awgrymu mai 10% neu llai sy'n cefnogi'r syniad.

Gallasai hynny newid wrth gwrs ac mae'n ymddangos bod y cyn Brif Weinidog yn disgwyl neu'n ofni y bydd hynny'n digwydd.