Bant â ni yn B&R

  • Cyhoeddwyd

Dyw isetholiadau seneddol ddim yn bethau mor anarferol â hynny er eu bod yn prinhau wrth i'r chwipiaid roi pwysau ar aelodau oedrannus i ymddeol adeg etholiad yn hytrach nac aros ymlaen i ddisgwyl y bwytäwr pechodau.

Ond dyma ni yng Nghymru yn wynebu'n ail isetholiad eleni ar ôl i ragor na deng mil o etholwyr Brycheiniog a Maesyfed lofnodi deiseb i orfodi etholiad, y tro cyntaf i ni gael dau mewn blwyddyn ers isetholiadau Castell Nedd a Mynwy yn 1991.

Hwn fydd y trydydd tro yn y cyfnod modern i etholwyr y ddwy sir wynebu isetholiad. Dydw i'n gwybod dim am isetholiad 1939 ond roedd un 1985 yn glincer, cymaint felly nes iddi ysbrydoli nofel arallfydol yr awdur toreithiog Phil Rickman, Candlenight. Mae honna'n werth ei darllen, gyda llaw ac yn dal i roi llond bola o ofn i Saeson sy'n ystyried symud i'r Gymru wledig.

Ta beth am hynny, y cwestiwn mawr nawr yw a fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn gallu efelychu eu camp yn 1985 a chipio'r sedd oddi wrth y Ceidwadwyr?

Fe drodd gornest 1985 yn frwydr rhwng Llafur a'r Rhyddfrydwyr gyda deiliaid y sedd yn cael eu cyfri mas yn weddol gynnar yn y ras. Gallai rhywbeth tebyg ddigwydd y tro yma gyda'r Ceidwadwyr wedi'u gwthio i'r naill ochor a Phlaid Brexit yn cystadlu gyda'r Democratiaid Rhyddfrydol i'w holynu.

Afrad dweud y byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol wrth eu boddau pe bai pleidleisiau'r maswyr yn cael eu hollti lawr y canol tra bod y mewnwyr yn coleddu y tu ôl i'r blaid felen!

Fel hyn y mae Ladbrokes yn gweld pethau.

Dem. Rhydd. 1-5

Ceidwadwyr 5-1

Bregsit 8-1

Llafur 50-1

Rwy'n meddwl bod yr ods yna ychydig bach yn rhy hael i'r Democratiaid Rhyddfrydol ac mae'n amhosib barnu eto p'un o'r ddwy blaid las fydd yn cynnig yr her fwyaf iddyn nhw. Ond does dim dwywaith, yn fy meddwl i, taw'r Lib Dems yw'r ffefrynnau wrth i ni ddisgwyl i'r gwn gael ei danio.