Isafbris alcohol: Busnesau Portiwgal yn 'llai cystadleuol'
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Portiwgal wedi mynegi gwrthwynebiad i'r cynlluniau i gyflwyno isafbris alcohol yng Nghymru - oherwydd y gallai wneud eu busnesau nhw'n "llai cystadleuol".
Fe ddaeth i'r amlwg fis diwethaf fod y wlad wedi cyflwyno gwrthwynebiad swyddogol i'r Undeb Ewropeaidd am y polisi.
Dywedodd Portiwgal y byddai'r newid yn cael "goblygiadau uniongyrchol" ar reolau masnach rydd o fewn yr UE.
Bwriad Llywodraeth Cymru yw cyflwyno isafbris o 50c yr uned, gan olygu y byddai potel win yn costio o leiaf £4.69.
Her blaenorol
Mae BBC Cymru wedi gweld copi o'r datganiad gan Lywodraeth Portiwgal i'r Comisiwn Ewropeaidd, sy'n awgrymu y byddai codi trethi ar alcohol yn "llai cyfyngiadol" i fusnesau nac isafswm pris.
Mae'n mynd ymlaen i ddweud bod "busnesau ym Mhortiwgal sy'n allforio gwinoedd i Gymru sy'n gwerthu am bris is na'r isafbris".
"Byddai cyflwyno isafbris yn golygu y bydd rhaid codi'r prisiau hynny, gan eu gwneud nhw'n llai cystadleuol yn y farchnad honno," meddai'r datganiad.
Nid dyma'r tro cyntaf i Bortiwgal gyflwyno cais tebyg - roedden nhw'n un o bum gwlad wnaeth geisio'n aflwyddiannus i atal Llywodraeth yr Alban rhag cyflwyno isafbris ar alcohol.
Cafodd y ddeddf ar isafbris alcohol ei phasio gan y Cynulliad y llynedd, ac roedd disgwyl iddi ddod i rym eleni.
Ond oherwydd gwrthwynebiad Portiwgal, mae 'na gyfnod oedi wedi dod i rym nes mis Awst.
Mae Llywodraeth Cymru wedi amcangyfrif fod goryfed alcohol yn arwain at bron i 55,000 o ymweliadau ysbyty - a chost o dros £150m i'r gwasanaeth iechyd - bob blwyddyn.
Yn 2016, roedd 504 o farwolaethau yng Nghymru yn gysylltiedig ag alcohol, a bwriad y llywodraeth yw ceisio atal yfed peryglus a niweidiol drwy wneud alcohol cryf, rhad yn llai fforddiadwy.
Dywedodd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth Cymru, Vaughan Gething ei fod yn parhau i obeithio y bydd y ddeddf yn dod i rym erbyn "dechrau 2020".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd9 Awst 2018