Bil isafbris alcohol bellach yn gyfraith yng Nghymru
- Cyhoeddwyd
Mae cyfraith newydd a fydd yn cyflwyno isafbris ar gyfer gwerthu alcohol yng Nghymru wedi cael Cydsyniad Brenhinol gan Ei Mawrhydi y Frenhines.
Nod Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018 yw mynd i'r afael â phroblemau iechyd hirdymor yn sgil effeithiau goryfed alcohol,
Bydd Llywodraeth Cymru'n pennu lefel yr isafbris uned wedi ymgynghoriad sy'n cael ei lansio yn yr hydref.
Cafodd y Bil ei gymeradwyo gan ACau ym Mehefin ac mae disgwyl i'r drefn newydd ddod i rym yn ystod haf 2019.
Mae amcangyfrif fod goryfed alcohol yn arwain at bron i 55,000 o ymweliadau ysbyty - a chost o dros £150m i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru - bob blwyddyn.
Yn 2016, roedd 504 o farwolaethau yng Nghymru yn gysylltiedig ag alcohol, ac mae strategaeth Llywodraeth Cymru yn ceisio atal yfed peryglus a niweidiol drwy wneud alcohol cryf, rhad yn llai fforddiadwy.
Mae'n nod hefyd i geisio lleihau'r effeithiau ar yfwyr cymedrol.
Wedi'r seremoni selio, dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones fod y ddeddfwriaeth "yn mynd ati mewn ffordd synhwyrol a phenodol i ymdrin â phroblem real ac amlwg yng Nghymru heddiw.
"Mae'r gyfraith newydd hon yn rhan o'n hymdrechion ehangach i wella a diogelu iechyd poblogaeth Cymru."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething fod y gyfraith yn gyfle i "wneud newid sylweddol", gan alluogi gweinidogion i "wneud rhagor i geisio achub bywydau".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2018
- Cyhoeddwyd20 Chwefror 2018
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2018