Mae'n Foris yn Seion

  • Cyhoeddwyd

Wele'n gwawrio ddydd i'w gofio, Geni Seilo, gorau swydd.

1997 oedd y tro cyntaf i mi gwrdd â Boris Johnson. Roeddwn i'n ffilmio proffil o etholaeth De Clwyd i newyddion S4C a Johnson oedd ymgeisydd y Ceidwadwyr, y tro cyntaf iddo roi ei ben ar y bloc mewn etholiad.

Does gen i fawr o gof o'r cyfarfod hwnnw a bod yn onest. Roedd y Ceidwadwyr yn defnyddio Cymru fel rhyw fath o ysgol feithrin i ddarpar wleidyddion ar y pryd ac roedd y gŵr siambolig penfelyn jyst yn un arall o'r rheiny, crwt ysgol fonedd arall wedi ei ddanfon i Gymru i geisio swyno'r brodorion.

Roedd y Ceidwadwyr yn y dyfroedd mawr a'r tonnau yn 97, wrth gwrs. Doedd perfformiad Johnson yn ddim gwell na dim gwaeth na llwyth o Geidwadwyr eraill ond mae'n amlwg nad oedd etholwyr De Clwyd yn gweld unrhyw beth sbesial ynghylch y dyn.

Nawr mae'r ceiliog wedi cyrraedd pen y domen ac wedi gwneud hynny yn bennaf, fi'n meddwl, oherwydd cwlt yr arweinydd cryf, rhywbeth sy'n ddwfn yn y seicoleg geidwadol.

Cymharwch am eiliad y ffordd y mae'r Ceidwadwyr yn mawrygu cyn brif weinidogion fel Thatcher a Churchill ac agwedd Llafurwyr tuag at Tony Blair neu Harold Wilson. O'r holl brif weinidogion Llafur, dim ond Attlee sy'n destun edmygedd o fewn ei blaid ei hun ac edmygedd yw e hefyd, nid addoliad.

Dyna, am wn i, sydd wrth wraidd y gred ymhlith y ffyddloniaid Ceidwadol y gall eu harweinydd newydd ddatrys holl broblemau Bregsit trwy rym ei bersonoliaeth. Y cyfan sydd angen yw hyder a gobaith, meddid, yr union fath o hunan hyder y mae addysg yn Eton a Rhydychen yn rhoi i ddyn.

Rwy'n ceisio cofio'r tro diwethaf i ni gael rhywun felly yn arwain y wlad, gŵr oedd mor sicr o'i ddoniau ei hun nes ei fod yn fodlon betio'r cyfan o'i gyfalaf gwleidyddol ar ei allu i ddwyn perswâd ar bobol.

Beth oedd ei enw e, dywedwch? Mae fe ar flaen fy nhafod. Rhywbeth Cameron?

Sgwn i beth ddigwyddodd i hwnnw?