Y bore wedyn
- Cyhoeddwyd
Mae Sir Frycheiniog yn sir o drobwyntiau. Fe fyddai Cymru'n lle gwahanol iawn pe bai Llywelyn ap Gruffydd heb anelu ei geffyl i gyfeiriad Cilmeri neu pe bai Pantycelyn heb oedi ym mynwent Talgarth i wrando ar Hywel Harris.
Doedd isetholiad Brycheiniog a Maesyfed yn 1985 ddim yn un o'r trobwyntiau hynny er ei fod yn ymddangos felly ar y pryd. Geiriau gwag oedd honiad y Rhyddfrydwyr bod yr ornest wedi rhoi terfyn ar Thatcheriaeth a phroffwydoliaeth Neil Kinnock ei fod e ar ei ffordd i Downing Street.
Beth am ornest 2019 felly? A fydd canlyniad neithiwr yn cael ei ystyried yn ddigwyddiad o bwys hanesyddol neu'n ôl-nodyn?
Mewn un ystyr wrth gwrs mae'r etholiad yma llawer yn bwysicach nac un 1985. Roedd gan Margaret Thatcher glamp o fwyafrif a doedd dyfodiad Richard Livsey i Dŷ'r Cyffredin yn gwneud fawr o wahaniaeth. I Boris Johnson ar y llaw arall, mae pob pleidlais yn San Steffan yn cyfri. Mae ethol Jane Dodds yn cymhlethu pethau felly.
Serch hynny mae 'na gysur i'r Ceidwadwyr yn y ffigyrau. Gydag ychydig dros hanner y pleidleiswyr yn cefnogi ymgeiswyr bregsitaidd doedd na ddim arwydd bod maswyr 2016 yn edifarhau ynghylch eu penderfyniad. Llwyddwyd hefyd i wasgu cefnogaeth Plaid Bregsit yn bur effeithiol.
Ond efallai nad llwyddiant y Democratiaid Rhyddfrydol na gwobr gysur y Ceidwadwyr fydd yn cael ei gofio. Yn hytrach mae'n bosib taw'r hyn fydd yn denu sylw yn y dyfodol yw diflaniad y bleidlais Lafur.
Mae i Lafur ddod yn agos at golli ei hernes mewn etholaeth fel hon yn drychineb llwyr ac yn cadarnhau'r arolygon barn bod y blaid yng Nghymru mewn sefyllfa argyfyngus. Dyw hi ddim yn argyfwng diwedd oes eto ond fe allai hi droi'n hynny os nad yw'r blaid yn canfod ffordd allan o'i thwll presennol.