Adran Dau: Casnewydd 2-2 Mansfield

  • Cyhoeddwyd
Joss LabadieFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Sgoriodd Joss Labadie ar ôl chwe munud o'r gêm

Fe wnaeth Casnewydd ildio mantais o ddwy gôl gan orfod bodloni ar bwynt yn unig yn erbyn 10 dyn Mansfield.

Joss Labadie roddodd yr Alltudion ar y blaen gyda Padraig Amond yn sgorio'r ail, yn dilyn cic o'r smotyn wedi trosedd yn erbyn Jamille Matt.

Sgoriodd Krystian Pearce i'r ymwelwyr yn syth wedi'r egwyl, gyda Danny Rose yn dod â'r sgôr yn gyfartal.

Fe allai Mansfield wedi sicrhau'r triphwynt ond llwyddodd Tom King i arbed ergyd o'r smotyn gan Nicky Maynard.

Cafodd Jacob Mellis ei anfon o'r maes am sathru wedi 68 munud.

Dywedodd rheolwr Casnewydd, Michael Flyn, fod ei dîm wedi chwarae'n wych am 90% o'r gêm.