Boneddigion a Foneddigesau
- Cyhoeddwyd
Un o'r problemau wrth ysgrifennu pwt mewn cyfnod fel yr un presennol yw bod pethau'n dyddio'n rhyfeddol o sydyn a bod bron popeth sy 'na i ddweud wedi ei ddweud gan rywun yn rhywle! Mae bod yn wreiddiol yn gallu bod yn anodd weithiau.
Ond fe wnaeth un peth fy nharo wrth wylio BBC Parliament neithiwr.
Mae'n debyg eich bod wedi gweld y lluniau erbyn hyn o Jacob Rees-Mogg yn gorweddian fel rhyw ymerawdwr neu seneddwr Rhufeinig ar y fainc flaen. A dweud y gwir, roeddwn i'n hanner disgwyl gweld caethferch yn ymddangos gyda bwnsiad o rawnwin i fwydo'r boi!
Mae'n hawdd chwerthin ond gallasai'r ddelwedd yna fod yn niweidiol iawn i'r Ceidwadwyr yn yr etholiad sydd i ddod.
Dyma pam. Os edrychwn ni ar faes y gad etholiadol mae arolygon barn yn awgrymu y gallasai'r Ceidwadwyr golli rhyw 30 o seddi, a rheiny yn bennaf i'r Democratiaid Rhyddfrydol a'r SNP. Mae'r DUP hefyd yn debyg o golli tir.
Jyst er mwyn aros yn eu hunfan felly fe fyddai'n rhaid i'r Ceidwadwyr gipio ddeugain o seddi Llafur - ond lle fydd y rheiny?
Mae nifer o'r etholaethau ymylol traddodiadol, llefydd fel Gogledd Caerdydd, yn rhai wnaeth bleidleisio o blaid aros yr Undeb Ewropeaidd. Go brin fod rheiny o fewn cyrraedd y Ceidwadwyr.
Rhaid troi felly at seddi Llafur wnaeth bleidleisio o blaid gadael yr Undeb.
Yng Nghymru mae hynny'n cynnwys seddi fel Wrecsam a Gŵyr ond mae'r rhan fwyaf o'r seddi felly yng nghanolbarth a gogledd Lloegr.
Y broblem yw bod y rhain yn seddi llwythol Llafur lle mae dosbarth a chefndir o hyd yn cyfri a lle nad yw addysg yn Eton neu Harrow neu le bynnag yn fantais i wleidydd. Gall fod yn 'posh' fod yn ergyd farwol yn y llefydd hyn.
Roedd David Cameron a George Osborne yn ymwybodol iawn o'r broblem. Newidiodd Osborne ei enw a'i acen er mwyn ymddangos yn llai crand a phwy all anghofio Cameron yn straffaglu i gofio pa glwb pêl droed yr oedd e'n ei gefnogi neu'n esgus cefnogi?
Ymddengys nad yw Boris Johnson na Rees-Mogg yn poeni'r un botwm corn am y peth gan feddwl efallai bod taflu ambell i ddarn o Ladin mewn i araith neu wisgo dillad aeth allan o ffasiwn ganrif yn ôl yn eu hanwylo i'r etholwyr.
Rwy'n amau taw'r gwrthwyneb sy'n wir.
Roeddwn i'n siarad ag un aelod seneddol o'r cymoedd y dydd o'r blaen wnaeth ddweud ei fod wedi ei synnu gan ba mor amhoblogaidd oedd Boris Johnson ar stepen y drws, hyd yn oed ymhlith cefnogwyr Bregsit. Yn ei farn e mae Llafur yn debycach o golli maswyr Llafur i blaid Nigel Farage nac i un Mr Johnson.
Fe gawn weld ond mae'n ymddangos y gallasai'r Ceidwadwyr fod mewn 'Eton mess' o'u creadigaeth eu hun!