Gobeithion Cymru o gyrraedd Euro 2020 dal yn fyw

  • Cyhoeddwyd
baleFfynhonnell y llun, Rex Features
Disgrifiad o’r llun,

Peniad Gareth Bale a sicrhaodd y pwyntiau i Gymru

Mae gobeithio Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2020 yn dal yn fyw o drwch blewyn er gwaetha' perfformiad siomedig yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener.

Roedd angen peniad hwyr gan Gareth Bale - a groesodd y llinell o drwch blewyn yn unig - i sicrhau'r fuddugoliaeth o 2-1 yn erbyn y tîm oedd yn 109 ar restr detholion y byd.

Fe ddechreuodd y gêm yn araf dros ben gyda'r cefnogwyr yn dechrau anesmwytho wrth i Gymru fethu â chreu cyfle clir yn y munudau agoriadol.

Ond fe ddaeth gôl o ffynhonnell annisgwyl wedi 25 munud. Fe wyriodd ergyd Gareth Bale o bell, ond doedd dim perygl amlwg tan i Pavel Pashayev geisio penio'r bêl yn ôl at ei golwr a llwyddo i benio'n daclus i'w rwyd ei hun i roi Cymru ar y blaen.

Er gwaetha'r patrwm ymosodol i'r tîm a ddewisodd Ryan Giggs, ni lwyddodd Cymru i greu cyfle arall go iawn tan eiliadau ola'r hanner cyntaf pan gafodd Tom Lawrence ei rhyddhau yn y cwrt cosbi. Roedd y cyfle'n un gwych, ond aeth ergyd Lawrence yn syth i freichiau golwr diolchgar Azerbaijan.

Ffynhonnell y llun, PA Media
Disgrifiad o’r llun,

Golwr Azerbaijan a Dan James yn gwylio peniad Pashayev yn mynd i'w gôl ei hun i roi Cymru ar y blaen yn yr hanner cyntaf

Camgymeriad costus

Doedd hi ddim yn noson gyffyrddus i Gymru fodd bynnag, ac wedi 58 munud roedd yr ymwelwyr yn gyfartal.

Camgymeriad gan Neil Taylor ger y llinell hanner ddechreuodd y trafferthion, ac er i Wayne Hennessey arbed ergyd gyntaf Mahir Emreli, ond yr ymosodwr oedd y cyntaf i ymateb a rhwydo ar yr ail gynnig.

Fe ddaeth ymateb yn chwarae Cymru yn syth gyda Tom Lawrence, Dan James a Gareth Bale yn cael cyfleoedd i ergydio.

Gyda 11 munud yn weddill fe greodd James gyfle gyda chroesiad isel i'r cwrt, ond Connor Roberts yn methu rheoli'i ergyd ac yn tanio heibio'r postyn.

Ond roedd y pwysau i gyd yn dod gan Gymru bellach ac wedi 83 munud fe ddaeth y gôl hollbwysig i gadw ymgyrch y tîm yn fyw.

Roedd ergyd gan Joe Allen wedi tasgu oddi ar sawl chwaraewr yn y cwrt, a Gareth Bale gododd yn uwch na phawb i benio'r bêl i'r rhwyd.

Roedd chwarae Cymru'n fler ac fe gafodd Azerbaijan gyfleoedd eto cyn y diwedd i ddod yn gyfartal, ond fe ddaliodd Cymru eu gafael am y pwyntiau pwysig sy'n eu codi i'r trydydd safle yn y grŵp.

Ffynhonnell y llun, Huw Evans agency
Disgrifiad o’r llun,

Bale yn dathlu ei gôl