Arglwydd, dyma fi

  • Cyhoeddwyd

Rwy'n tybio bod Theresa May yn ddiolchgar bod y gwefannau newyddion yn llawn dop o straeon Bregsit y bore 'ma a bod ei rhestr anrhydeddau olaf yn cael fawr o sylw.

Holl bwynt rhoi'r cyfle i Brif Weinidog lunio rhestr anrhydeddau ar ôl ymddiswyddo yw rhoi cyfle iddi hi neu fe wobrwyo pobol sydd wedi eu cynorthwyo, ond, yn ddieithriad bron mae hynny'n denu beirniadaeth lem.

Yn wir rodd Mrs May yn rhan o'r feirniadaeth honno pan gyhoeddodd David Cameron ei restr. Roedd dyrchafu pennaeth cyfathrebu Cameron, Craig Oliver, i fod yn farchog yn gwneud iddi gyfogi, mynte hi.

Does dim lle gan Mrs May i gwyno felly os oes 'na adwaith tebyg wrth iddi wasgaru'r llythrennau ymhlith pobol fel Nick Timothy, Fiona Hill ac Olly Robbins.

Beth sy'n fwy diddorol efallai yw bod dau wleidydd o Gymru wedi eu dyrchafu i Dy'r Arglwyddi sef Byron Davies o'r Ceidwadwyr a Debbie Wilcox o Lafur.

Mae'r ddau yn wleidyddion o sylwedd ac yn haeddu eu llefydd i'r graddau y mae unrhyw un yn haeddu eu lle mewn siambr enwebedig ond rwy'n synhwyro bod rhywbeth arall yn mynd ymlaen yn fan hyn.

Fel mae'n sefyll ar hyn o bryd, mae'r ail siambr yn anghynrychioladol tost o safbwynt gwledydd a rhanbarthau'r deyrnas hon.

Yn ôl ymchwil gan yr Electoral Reform Society mae 54% o'r arglwyddi yn dod o un o dri rhanbarth. Oes angen dweud taw Llundain, de ddwyrain Lloegr a dwyrain Lloegr yw'r rheiny?

Tra bod cynrychiolaeth yr Alban a Gogledd Iwerddon mwy neu lai yn adlewyrchu eu poblogaethau mae Cymru wedi ei thangynrychioli'n ddybryd gyda dim ond 21 o Arglwyddi a'u prif gartrefi yng Nghymru.

Rwy'n amau taw ymgais i unioni'r cam hwnnw yw'r ddau benodiad Cymreig.

Cofiwch, nid Cymru yw'r lle sy'n dioddef waethaf o'r anghyfartaledd yma. Gogledd Lloegr sy'n dioddef fwyaf.

Dim ond 5% o arglwyddi sy'n dod o ogledd orllewin Lloegr, fel enghraifft, rhanbarth sy'n gartref i 11% o'r boblogaeth.

Mae'r rhagfarn sefydliadol sy'n deillio o hynny yn rhan o'r rheswm am y ffordd y mae de ddwyrain Lloegr yn cael ei ffafrio'n gyson yn economaidd a gwleidyddol. Tra bod Llundain yn disgwyl yn eiddgar am ei chrossrail mae'r Cymry a'n cyfeillion yng Ngogledd Lloegr yn dal i grynu a gwichian mewn trennau Pacer deugain oed, trenau sydd erioed wedi eu defnyddio i'r de o'r llinell ddychmygol honno o Fôr Hafren i'r Wash.

Rhaid yw diogelu tinau tyner ein harglwyddi, wedi'r cyfan!