Cynlluniau i adnewyddu cyffordd ar yr A55 yng Nghonwy
- Cyhoeddwyd
Mae cynlluniau wedi eu datgelu i adnewyddu cyffordd oddi ar yr A55.
Cyffordd 19 ger Llansanffraid Glan Conwy sy'n cysylltu'r ffordd honno gyda'r A470.
Ar hyn o bryd mae chwe opsiwn gwahanol yn cael eu hystyried mewn ymgynghoriad pedair wythnos.
Yn ôl y ddogfen ymgynghori mae "llawer o ddamweiniau" a chiwiau ymhlith y problemau presennol ar y gyffordd.
Mae'r ymgynghoriad yn nodi bod disgwyl i giwiau ar y ffordd sy'n arwain at y gylchfan, sydd wrth galon y gyffordd, waethygu yn y pump i 10 mlynedd nesaf.
Ychwanegodd bod "cerbydau'n teithio'n gyflym" ar y gylchfan a bod y "ddarpariaeth ar gyfer cerddwyr a beicwyr yn wael".
Mae mwyafrif yr opsiynau sy'n cael eu hystyried yn cynnwys cyflwyno goleuadau traffig ar y gylchfan, gyda chyfleusterau gwell i gerddwyr a beicwyr allu croesi'r gyffordd.
Mae tri o'r chwe opsiwn yn cynnwys adeiladu ffyrdd cyswllt cwbl newydd ar y gylchfan i gysylltu'r A55 a'r A470 yn fwy uniongyrchol.
Daw'r ymgynghoriad i ben ar 11 Hydref.
Mae disgwyl i'r cynlluniau terfynol gael eu cyflwyno yn ystod y gaeaf, gyda'r gwaith adeiladu i ddechrau yn ystod gwanwyn 2020.