Adran Dau: Northampton 2-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
CasnewyddFfynhonnell y llun, Getty Images

Mae Casnewydd wedi colli am y tro cyntaf yn Adran Dau y tymor hwn, wedi iddyn nhw gael eu trechu oddi cartref yn Northampton brynhawn Sadwrn.

Aeth y tîm cartref ar y blaen wedi dim ond pum munud, gyda Mark O'Brien roi'r bêl i'w rwyd ei hun.

Llwyddodd Northampton i ddyblu eu mantais gydag 20 munud yn weddill wrth i Sam Hoskins rwydo heibio i'r golwr Tom King.

Aeth pethau o ddrwg i waeth i'r Alltudion yn y munudau olaf, wrth i Jamille Matt weld cerdyn coch ar ôl ail gerdyn melyn.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn disgyn o'r ail safle i bedwerydd yn y tabl.