S4C yn lansio sianel ar-lein newydd i ddysgwyr Cymraeg

  • Cyhoeddwyd
Garddio a mwyFfynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Bydd rhaglenni fel Garddio a Mwy yn rhan o'r arlwy ar y gwasanaeth ar-lein newydd i ddysgwyr

Mae S4C wedi lansio sianel ar-lein newydd i ddysgwyr ar y cyd gyda'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae'r Sianel Dysgu Cymraeg yn rhan o wasanaeth ar alw S4C Clic ac ar gael i ddefnyddwyr ers 16 Medi.

Bydd y ganolfan yn rhoi cymorth i S4C ddewis rhaglenni a chyfresi poblogaidd amrywiol o'r archif ac arlwy mwy diweddar.

Dywedodd Prif Weithredwr S4C, Owen Evans fod y sianel newydd yn "rhan o ymrwymiad S4C i gefnogi dysgwyr Cymraeg a'u croesawu i'r gwasanaeth".

Mae cyfresi Garddio a Mwy, Codi Pac, Cwpwrdd Dillad a Phopeth yn Gymraeg wedi'u cynnwys ar y gwasanaeth.

Daeth cadarnhad hefyd bydd y gyfres dysgu Cymraeg, Welsh in a Week, a rhaglenni Dal Ati, gwasanaeth blaenorol y sianel i ddysgwyr, ymhlith yr arlwy.

Ffynhonnell y llun, S4C
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r sianel newydd yn "rhan o ymrwymiad S4C i gefnogi dysgwyr Cymraeg a'u croesawu i'r gwasanaeth" yn ôl Owen Evans

Ychwanegodd Mr Evans: "'Dyn ni'n awyddus i helpu dysgwyr ar bob cam o'u siwrnai i ddysgu'r iaith, ond yn arbennig, felly, eu denu i wylio S4C ar ddechrau eu 'taith iaith'.

"Gyda dewis ardderchog o raglenni wedi'u casglu yn yr un fan, bydd yn hawdd i ddysgwyr troi atom i fwynhau defnyddio'u Cymraeg."

Dywedodd Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol: "Mae creu cyfleoedd i ddysgwyr ymarfer eu Cymraeg, a magu hyder i ddefnyddio'r iaith, yn rhan fawr o genhadaeth y Ganolfan.

"Bydd y sianel ar-alw newydd hon yn galluogi dysgwyr i wylio rhaglenni Cymraeg addas ar amser sy'n gyfleus iddyn nhw.

"'Dyn ni'n falch iawn o gydweithio gydag S4C ar y fenter ddiweddaraf hon, sy'n rhan o bartneriaeth bwysig rhyngom i gefnogi dysgwyr Cymraeg."