Hen Geiliog y Gwynt
- Cyhoeddwyd
Os ydy coeden yn syrthio yn y goedwig a neb yn ei chlywed ydy hi'n gwneud sŵn neu, mewn geiriau eraill, os nad yw llywodraeth yn gallu llywodraethu ydy hi mewn gwirionedd yn llywodraeth o gwbl?
Dyna'r sefyllfa sy'n ein hwynebu yn San Steffan ar hyn o bryd. Mae gennym Lywodraeth sydd wedi colli ei mwyafrif, nad yw'n meddu ar y gallu i addoedi'r senedd na galw etholiad cyffredinol. Mae hi'n bodoli mewn rhyw burdan diddiwedd yn troi fel ceiliog y gwynt ac yn cyflawni dim.
Nid o ddewis wrth gwrs y mae'r Llywodraeth yn y sefyllfa hon. Mae hi wedi ei chaethiwo gan y Goruchaf Lys ar y naill law a'r Fixed Term Parliaments Act ar y llall.
Mae mesur tymhorau penodedig 2011 wedi ymuno a'r Dangerous Dogs Act fel esiampl o'r peryglon o ddeddfu ar frys gan ein gadel mewn argyfwng cyfansoddiadol heb ddatrysiad amlwg. Sicrhau sefydlogrwydd i lywodraeth Cameron a Clegg oedd y bwriad, llywodraeth Johnson sy'n talu'r pris.
Pa ddewisiadau sydd gan y Prif Weinidog felly?
Wel yn gyntaf mae'n bosib y bydd Mr Johnson yn llwyddo i sicrhau cytundeb a'r Undeb Ewropeaidd sy'n ddigon da i ennill y gefnogaeth angenrheidiol yn y Senedd. Dyw hynny ddim yn amhosib ond mae dibynnu a'r haelioni Brwsel a chefnogaeth aelodau seneddol Llafur yn strategaeth beryglus lle mae llwyddiant yn ddibynnol ar eraill.
Yr ail ddewis yw ildio i'r senedd a gofyn am ohirio dyddiad gadael y Deyrnas Unedig. Fe fyddai gwneud hynny heb sicrhau etholiad cyffredinol yn golygu llwyr ddinistr i'r brand y mae Mr Johnson wedi treulio degawdau yn ei adeiladu. Dyw e ddim yn debyg o ddigwydd felly.
Mae'n debyg taw gohiriad ac etholiad yw'r opsiwn gorau i Mr Johnson ac mae'n bosib y bydd naill ai Llafur, yr SNP, neu'r ddau yn fodlon caniatáu i hynny ddigwydd unwaith y mae'r gohiriad wedi ei ganiatáu. Os nad ydyn nhw, fe fyddai'r purdan yn parhau.
Mewn sefyllfa felly, fe fyddai'n rhaid i Mr Johnson ystyried yr opsiwn eithaf sef ymddiswyddo.
A fydd pethau'n dod i hynny? Rwyf wedi hen roi'r gorau i broffwydo!