Caniatáu pleidlais i garcharorion yn etholiadau cyngor
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cynlluniau i ganiatáu carcharorion sydd wedi'i dedfrydu i lai na phedair blynedd dan glo i gael pleidleisio yn etholiadau'r cyngor nesaf.
Byddai hynny'n caniatáu i 1,900 o garcharorion i fwrw pleidlais, ac mae cynlluniau pellach i ganiatáu pleidlais hefyd yn Etholiadau'r Cynulliad yn 2026.
Mae Plaid Cymru a'r blaid Lafur wedi dweud byddai caniatáu i garcharorion bleidleisio yn cynorthwyo eu hadferiad i gymdeithas ehangach.
Mae Plaid Brexit, y Ceidwadwyr ac UKIP wedi gwrthwynebu'r symudiad.
Byddai'r newid hefyd yn cynnwys pobl ifanc sydd yn y ddalfa.
Dywedodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth leol, Julie James AC: "Ein nod yw caniatáu i bobl ifanc a charcharorion bleidleisio yn yr etholiadau cyngor nesaf yn 2022."
Ond, dywedodd nad oedd digon o amser i "ychwanegu darpariaethau ar gyfer etholiadau nesaf y cynulliad".
Ychwanegodd Ms James y byddai'n dod o hyd i ffordd "briodol" i newid y ddeddf yn yr amser "cynharaf bosib".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Mehefin 2019
- Cyhoeddwyd23 Ionawr 2019