Y Brenin Mawr Caradog

  • Cyhoeddwyd

Dim ond dau beth rwy'n gwybod ynghylch Caradog. Y peth cyntaf yw ei fod wedi ennill maddeuant yr Ymerawdwr Clawdiws am frwydro yn erbyn y llengoedd a gwrthsefyll goresgyniad tiriogaeth Britannia. Yr ail beth yw bod milwyr dewr y Brenin Mawr Caradog yn dod dros y bryn.

Diolch i Tacitus am y ffaith gyntaf a Gwersyll Llangrannog am yr ail.

Am ryw reswm mae'r hen gân wersyll yna wedi troi'n dipyn o fwydyn glust i mi yn yr wythnosau diwethaf. Mae'n chwarae yn fy mhen bob tro mae Boris Johnson yn ymddangos ar y teledu neu'n cael ei grybwyll mewn sgwrs.

Efallai mai hoffter Mr Johnson o'r clasuron sy'n gyfrifol ond mae'n fwy tebygol, dybiwn i, taw'r elfen o berfformiad sydd ynghlwm â'r Prif Weinidog sy'n dwyn y gan i gof. Dyw e ddim yn anodd dychmygu'r brenin mawr Boris yn arwain ei filwyr dewr, ei feirch glas a holl greaduriaid eraill y fintai trwy'r wlad fel rhyw lys canoloesol.

Y cwestiwn yw i ble y mae'n eu harwain nhw? Mae'r utgyrn yn seinio a phob math o bethau'n digwydd i greu darlun o lywodraeth weithgar, bendant ei chyfeiriad ond dim affliw o ddim i awgrymu beth yw'r cyfeiriad hwnnw.

Fe fydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar nos galan gaeaf. Mae miliynau'n cael eu gwario ar hysbysebion i'n hargyhoeddi o hynny ond dim gwybodaeth ar gael ynghylch natur yr ymadawiad hwnnw.

Dim ond dwy ffordd sydd yna i ni adael, gyda chytundeb a heb gytundeb. Mae cytundeb yn ymddangos yn annhebyg a, hyd yn oed wedyn, does dim sicrwydd y byddai Tŷ'r Cyffredin yn ei basio. Fe fyddai gadael heb gytundeb, ar y llaw arall, yn groes i Ddeddf Benn sy'n gorchymyn i'r Prif Weinidog geisio estyniad os nad oes cytundeb.

Mae llywodraeth Johnson a'r dyn ei hun yn hoff o led awgrymu bod modd osgoi goblygiadau'r ddeddf honno. Ond gyda'r Senedd yn eistedd a'r Goruchaf Lys yn cadw llygad barcud ar bethau, yr eiliad y mae'r llywodraeth yn datgelu ei "cunning plan" fe fydd Blackadder wrthlaw i'w saethu i lawr.

Efallai nad y Brenin Mawr Caradog yw'r prif weinidog wedi'r cyfan. Mae'n bosib bod y Grand Old Duke of York yn well gymhariaeth!