Ydy trafod y mislif yn dal yn tabŵ?
- Cyhoeddwyd
Ar ôl bod yn gwirfoddoli i helpu menywod yn Nepal sy'n wynebu problemau mawr gyda thabŵ a thlodi mislif, penderfynodd Tara Leanne Hall o Flaenau Ffestiniog wneud rhywbeth am broblemau tebyg yng Nghymru ar ôl dod adre.
"Oni'n mynd i fynd offi drafaelio eto ond nes i feddwl 'na, nai aros - oni isho neud rwbath da yn fama," meddai Tara sy'n 26 oed.
Roedd hi'n dilyn cyfrifon fel Mr Bloody Period a Her Flow ar Instagram ond gwelodd nad oedd dim trafodaeth na gwybodaeth i'w gael yn lleol, yn enwedig yn y Gymraeg.
Felly sefydlodd Tara brosiect o'r enw y Cylch Coch i addysgu merched ifanc am y mislif a'r nwyddau sydd ar gael ac i roi nwyddau mislif rhad ac am ddim i fenywod lleol.
"O'n i isho rywbeth oedd genod lleol yn gallu teimlo oedd yn fwy personol a drwy gyfrwng y Gymraeg fysa'n gallu eu helpu nhw," meddai.
Yn ôl elusen Plan International UK mae un o bob deg o ferched rhwng 14 a 21 oed yn byw mewn tlodi mislif yn y DG.
Dydi hi ddim yn broblem enfawr yng ngogledd Cymru meddai Tara, ond mae yna fenywod yn ei hardal sy'n cael trafferth fforddio cynnyrch mislif ar adegau yn eu bywyd, ac mae'n dal angen mwy o siarad agored am y pwnc, meddai.
Mae Cylch Coch yn gosod biniau casglu mewn siopau yn ardal Blaenau Ffestiniog a Phorthmadog i dderbyn cyfraniadau gan y cyhoedd sydd wedyn yn cael eu rhoi i glybiau a mudiadau lleol i ferched eu casglu pan maen nhw eu hangen.
Bwriad gwreiddiol y cynllun oedd casglu ar gyfer ysgolion, ond fis Ebrill 2019 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn rhoi £2.3m i gynghorau i sicrhau bod nwyddau ar gael am ddim mewn ysgolion yng Nghymru - sy'n "newyddion amazing" meddai Tara.
"Pan oni yn yr ysgol doeddan ni ddim yn mynd at yr athrawon i ofyn am pads neu tampons - oedd o'n rwbath reit embarrassing, dyna oeddan ni'n teimlo, so mae'n amazing bod [Llywodraeth Cymru] wedi rhoi y funding i hyn - ond mae angen yr education tu ôl iddo fo hefyd, sydd ddim yna," meddai Tara.
Oherwydd hynny mae hi'n cynnal gweithdai mewn ysgolion.
Mae'r merched sy'n dod i'r gweithdai yn cael gweld a theimlo'r nwyddau sydd ar gael - gan gynnwys pethau fel cwpanau mislif, padiau ailddefnydd a dillad isaf ar gyfer y mislif - a gofyn cwestiynau amdanyn nhw.
"Mae period pants yn eitha' newydd," meddai Tara "a mae lot o enethod ddim yn gwybod amdanyn nhw ond ma' nhw'n wych os ydyn nhw eisiau gwneud chwaraeon a ddim eisiau defnyddio tampon.
"Hyd yn oed os ydyn nhw ddim isho defnyddio nhw rŵan - achos dwi'n deall bod menstrual cup yn rywbeth reit anodd i hogan 11 oed - o leia' maen nhw'n gwybod bod o yna a sut i'w iwsio fo os ydyn nhw eisiau pan maen nhw'n hŷn.
"Mae na genod mewn rhai workshops yn dod ata' i yn y diwedd ac yn dweud 'dwi'n drwm iawn, ma'n rili poeni fi, dwi'n methu ysgol pan dwi on, dwi jyst yn petrified'.
"Dwi'n gallu dweud wrthyn nhw pa gynnyrch sydd ar gael i'w helpu nhw, fel menstrual cups a padiau mwy. Mae'r ffaith bod y wybodaeth yna iddyn nhw yn meddwl eu bod nhw'n teimlo'n fwy cyfforddus."
Mae Tara yn gwybod fod hyder merched yn gallu dioddef adeg y mislif.
"Pryd o'n i yn yr ysgol, dyna 'nath ddigwydd i fi - o'n i'n nofio lot, o'n i'n rili sporty, wedyn pan nes i gychwyn periods oni'n rili awkward, ddim isho neud gymaint efo chwaraeon, a ma hynna'n drist i feddwl bod genod yn methu allan," meddai.
Ond oes yna stigma yn dal i fod?
"Dwi'n meddwl ei fod yn fwy fatha bod pobl ddim yn siarad amdano fo, fatha'i fod yn secret yn dal i fod, dim ond genod sy'n gallu siarad amdano fo.
"A trwy hynna un o'r problemau ydi os oes gennyn nhw rhywbeth yn eu poeni am eu periods does na neb i siarad efo nhw, ond gallai fod yn arwydd o rywbeth mwy difrifol. Felly os ydyn nhw ddim yn mynd i siarad amdano fo mae'n gallu mynd i effeithio ar eu iechyd nhw yn y dyfodol hefyd."
'Help mawr' rhag mynd i ddyledion
Mae bocsys y prosiect yn mynd i glybiau a grwpiau lleol fel y clybiau gymnasteg, rygbi a nofio.
Ond mae llefydd i ferched hŷn gael gafael ar nwyddau hefyd.
Un o'r llefydd hynny ydy Barnardos yn Blaenau Ffestiniog lle mae modd i fenywod sy'n dod i nôl eu tocynnau ar gyfer y banc bwyd nôl nwyddau mislif hefyd o'r bocs rhoddion Cylch Coch.
"Mae gynnyn nhw access i'r nwyddau trwy'r amser os ydyn nhw yn stryglo i allu fforddio nhw adra," meddai Tara.
Mae'n help mawr i deuluoedd lleol meddai Iona Williams o Barnardos sy'n gweithio efo teuluoedd ym Meirionnydd, llawer ohonyn nhw sy'n byw mewn tlodi.
"Mae llawer o'r teuluoedd lleol yn gallu dod yma i nôl nwyddau mislif pan maen nhw'n nôl eu tocynnau i'r banc bwyd ond rydyn ni hefyd yn mynd â nhw efo ni pan rydyn ni'n gweithio yn y gymuned, lle nad oes na fanc bwyd.
"Mae'n help mawr iddyn nhw. Rhieni sengl ydy'r rhan fwyaf sydd angen y nwyddau ganddon i - mae'r taliadau Universal Credit yn cymryd gymaint o amser i ddod trwadd rŵan mae pobl yn mynd i ddyledion.
"Mae yna rai â phroblemau iechyd meddwl hefyd ac yn mynd yn isel, rydyn ni'n ceisio eu helpu nhw i symud ymlaen.
"Mae'r nwyddau mislif am ddim yn help i bobl sy'n gweithio ac ar y minimum wage hefyd," meddai Iona Williams.
Hefyd o ddiddordeb: