Adran Dau: Casnewydd 1-0 Carlisle

  • Cyhoeddwyd
George NurseFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

George Nurse yn tanio'r gôl fuddugol

Fe wnaeth Casnewydd ei gadael hi'n hwyr wrth iddyn nhw gipio'r pwyntiau yn erbyn Carlisle gyda chic olaf yr ornest.

Gallai Padraig Amond fod wedi eu rhoi'r Alltudion ar y blaen yn yr hanner cyntaf, ond fe wnaeth yr ymwelwyr hefyd fynd yn agos drwy Jack Bridge.

Ar ôl 95 munud o chwarae di-sgôr, yr eilydd George Nurse oedd yr arwr wrth iddo daro ergyd wych o du allan i'r cwrt cosbi i ennill y gêm.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn codi i'r tri safle uchaf yn Adran Dau.