I'r Gad

  • Cyhoeddwyd

Mae'n siŵr bod pob un ohonom ni rhywbryd wedi cael y profiad o weld rhywun yn colli ei dymer ac yn moelyd y bwrdd Monopoly neu Risk gan chwalu'r gêm. Gormod o sieri Nadolig neu Irish Cream sydd ar fai gan amlaf!

Amhosib yw mynd yn ôl at y gêm fel oedd hi ac afraid yw cychwyn gem newydd rhag ofn i'r un peth ddigwydd eto. Gwell yw setlo lawr i wylio'r Snowman am yr ugeinfed tro.

Mae Bregsit wedi cael effaith digon tebyg ar ein gwleidyddiaeth ni. Mae'r cyfan a'r chwâl a neb yn gwybod yn lle y bydd y darnau'n disgyn.

Mae hynny'n gwneud ein paratoadau ni newyddiadurwyr ar gyfer yr etholiad sydd o'n blaenau yn anodd a dweud y lleiaf.

Pa seddi allasai newid dwylo? Pa etholaethau sy'n haeddu sylw arbennig? Gan amlaf mae cwestiynau felly yn ddigon hawdd i'w hateb mewn etholiadau seneddol ond ychydig bach yn anoddach mewn gornestau Cynulliadol.

Y tro hwn, yn lle rhestr o ryw wyth neu naw o lefydd lle mae union natur yr ornest yn weddol eglur mae hyd at ugain o seddi Cymru ar y bwrdd a phob math o ganlyniadau annisgwyl yn bosib. Dyma ambell i esiampl.

Gyda mwyafrif Ben Lake yn gant a phedwar, fe fyddai Ceredigion ar restrau pawb o etholaethau i'w gwylio. Ond ai ras rhwng dwy blaid o aroswyr yw hon, mewn gwirionedd? Dim o reidrwydd. Pe bai'r Ceidwadwyr yn llwyddo i gronni y rhan fwyaf o faswyr y sir gallasai'r Torïaid yn hawdd ddod trwy'r canol a chipio'r sedd am y tro cyntaf yn y cyfnod modern.

Mae Gogledd Caerdydd hefyd yn un o'r seddi ymylol traddodiadol ac yn un wnaeth bleidleisio'n drwm dros aros yn refferendwm 2016. Dyna sy'n esbonio buddugoliaeth Anna McMorrin dros Craig Williams yn 2017.

Ond a fydd mewnwyr pybyr yn driw i Ms McMorrin neu wedi ei gelyniaethu gan safbwyntiau annelwig ei phlaid. Unwaith yn rhagor gallasai'r Ceidwadwyr elwa pe bai rhai o gefnogwyr Ms McMorrin yn troi at Blaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae'r ddwy senario uchod wrth gwrs yn dibynnu ar allu'r Ceidwadwyr i uno'r maswyr a rhoi Plaid Bregsit yn ôl yn ei bocs.

Mae hynny'n dod a ni at lwyth o etholaethau diwydiannol lle'r oedd y bleidlais Lafur yn cael ei phwyso yn hytrach na'i chyfri yn y dyddiau a fu.

Ers rhai degawdau bellach mae pleidleiswyr dosbarth gwaith wedi bod yn raddol fudo o'r chwith i'r dde, tra bod y bleidlais dosbarth canol, addysgedig wedi yn bod yn symud i'r cyfeiriad arall. Dyw hynny ddim yn unigryw i Brydain. Gellir gweld yr un patrwm yn yr Unol Daleithiau a nifer o wledydd gorllewinol eraill.

Hyd yma, mae casineb llwythol tuag at y Ceidwadwyr wedi diogelu'r cadarnleoedd Llafur ond dyw'r casineb hwnnw ddim o reidrwydd yn bodoli yn achos plaid Nigel Farage.

Wrth edrych ymlaen at yr etholiad felly, yr hyn sydd gennym, mewn gwirionedd, yw deugain o isetholiadau lle bydd sawl gornest, o bosib, yn cael eu penderfynu gan bleidleisio tactegol.

Dyna pam mae'n amhosib bron darogan canlyniadau etholaethol unigol ar sail polau Cymreig neu Brydeinig. Mae fy nghyfaill, Roger Scully yn gorfod gwneud hynny oherwydd taw dyna yw ei job ond byswn yn argymell bod angen llond sachaid o halen wrth ystyried darogan o'r fath.