Cwmni cynhyrchu peis yn creu 110 o swyddi newydd
- Cyhoeddwyd
Mae cwmni cynhyrchu peis wedi cyhoeddi eu bod yn creu 110 o swyddi newydd.
Mae Peter's Food Service, sydd wedi'i leoli ym Medwas, Caerffili, yn dweud eu bod yn symud i gynnal shifftiau ychwanegol, ac o ganlyniad yn recriwtio rhagor o staff.
Yn ôl y cwmni, maen nhw eisoes wedi siarad gyda 252 o weithwyr gollodd eu swyddi ar ôl i gwmni dodrefn Triumph fynd i'r wal yn gynharach yn y mis.
Mae cwmni Peter's Food eisoes yn cyflogi 730 o weithwyr ac mae gyda nhw drosiant blynyddol o £65m.
Dywedodd rheolwr gyfarwyddwr y cwmni, Mike Grimwood fod y cwmni wedi wynebu "dwy flynedd anodd" a bod y cytundebau newydd yn ganlyniad i adolygiad busnes y cwmni.
Ychwanegodd: "Fel nifer o wneuthurwyr eraill rydym wedi dioddef amseroedd caled, ond mae cefnogaeth ein staff arbennig wedi ein cynorthwyo i siapio dyfodol disglair i'r cwmni."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Hydref 2019