Adran 2: Casnewydd 2- 1 Scunthorpe United

  • Cyhoeddwyd
Padraig Amond yn dathlu ar ol gol gyntaf CasnewyddFfynhonnell y llun, Lluniau Huw Evans
Disgrifiad o’r llun,

Dyma oedd chweched gôl Padraig Amond (chwith) y tymor hwn

Mae tymor rhagorol Casnewydd yn parhau ar ôl iddyn nhw guro Scunthorpe yn Rodney Parade.

Josh Sheehan, gyda'i gôl gyntaf o'r tymor, a sicrhaodd y fuddugoliaeth i Gasnewydd a chadw'r pwysau ar y timau ar frig yr Ail Adran.

Rhoddodd Padraig Amond yr Alltudion ar y blaen ychydig cyn yr egwyl, ond yn fuan wedyn daeth camgymeriad gan amddiffynnwr Casnewydd Mark O'Brien, pan roddodd y bêl yn ei rwyd ei hun, gan unioni'r sgôr.

Mae Casnewydd yn drydydd ar ôl y fuddugoliaeth tra bod yr ymwelwyr dri safle o waelod yr adran.