'Pwyslais masnachol Calan Gaeaf sy'n frawychus!'
- Cyhoeddwyd
Calan Gaeaf - rhywbeth i'w fwynhau yntau rywbeth i'w ofni?
Gŵyl llawn pwmpenni, gwisgoedd ffansi rhad a phlant rheibus yn crefu am siocled a melysion ydi hi bellach.
Ond fel mae Dr Emma Lile, cyn-guradur yn Amgueddfa Werin Cymru, Sain Ffagan, yn ei ddweud, mae'r traddodiad wedi newid cryn dipyn dros y canrifoedd.
"Pinsiad lleiaf o arswyd"
Ar noson Calan Gaeaf,
Pan gysg y byd yn araf,
Y daw yr yspryd ar ddihun
I gysawd dyn agosaf ('Brynfab', Pontypridd, 1909)
Gwisgoedd ffansi, losin amryliw, 'Parti'r Ysbrydion' Huw Chiswell ar loriau disgos plantos ledled Cymru - dyma ŵyl Galan Gaeaf yn ei hanterth, a holl fwrlwm yr achlysur heddiw yn tanio'r dychymyg ac yn ddeuoliaeth rhyfedd o adloniant diniwed a'r pinsiad lleiaf o arswyd.
Does dim dwywaith amdani, gŵyl o hwyl i blant a phobl ifanc yn bennaf yw Calan Gaeaf bellach. Cyfle i droi'n wrach neu'n ddiafol am un noson, yn sgerbwd neu'n Ddraciwla, gan godi braw a rhannu jôc fel ei gilydd.
Cerfio pwmpenni, coginio cacennau brawychus, creu addurniadau du ac oren, sef lliwiau arferol 31 Hydref erbyn hyn, wrth i'r ieuenctid gael cyfle i ystyried yr arallfydol mewn ffordd diogel ac, ar y cyfan, anfygythiol.
Gwledd Baganaidd
Cyferbyniad aruthrol i'r presennol oedd dathliadau Calan Gaeaf ein cyndeidiau Celtaidd pell. Er mai niwlog fydd union wreiddiau'r ŵyl fyth, fe darddodd o'r wledd baganaidd hynafol Samhain, a oedd yn dynodi cychwyn blwyddyn newydd i'r Celtiaid.
Dyma gyfnod i ystyried ac i goffáu cylchdroad y tymhorau - diwedd goleuni'r haf a'r hydref, a dechrau oerni a duwch y gaeaf. Y ffrwythlondeb a'r llymder, bywyd ac angau. Ar nos Galan Gaeaf credir mai tenau oedd y ffin rhwng y byd hwn a'r nesaf, â'r ysbrydion a'r bwganod yn rhydd i grwydro'r ddaear.
O ganlyniad, daeth yn fynegiant naturiol o'r ŵyl i adrodd straeon arswyd, cynnau coelcerthi ger mannau claddu ac i geisio osgoi trychiolaethau echrydus fel y ladi wen a'r hwch ddu gwta.
Roedd edrych ymlaen at y flwyddyn newydd a darogan eich ffawd hefyd yn boblogaidd ymysg yr hen Gymry ar noson Galan Gaeaf, yn arbennig ym materion rhamant a marwolaeth.
Ofergoeledd
Roedd plicio croen afal a'i daflu dros yr ysgwydd i weld, wrth iddo lanio, siâp llythyren gyntaf eich gwir gariad yn arferiad cyffredin, tra gosodai merched sengl eu byrddau gyda'r llestri wyneb i waered er mwyn i'w darpar wŷr ymddangos iddynt am hanner nos.
Coel tipyn yn fwy difrifol oedd mynd i'r eglwys am hanner nos i glywed sibrwd enwau'r rheiny a fyddai'n marw yn ystod y flwyddyn ganlynol.
O tua'r 8fed ganrif ymlaen, fe ymgorfforwyd rhai o draddodiadau Samhain o fewn gwyliau'r Eglwys Gristnogol, sef Gŵyl yr Holl Seintiau (1 Tachwedd) a Gŵyl yr Holl Eneidiau (2 Tachwedd), a oedd ill dwy yn ymwneud â choffáu'r meirw.
Ychydig iawn o Gymry sydd yn ymwybodol o gefndir Celtaidd Calan Gaeaf erbyn hyn, wedi i'r arferion hynafol farw o'r tir bron yn llwyr erbyn dechrau'r ugeinfed ganrif.
Serch hynny, ailboblogwyd yr ŵyl o'r 1980au cynnar ymlaen o dan ddylanwad gogledd America, pan gyflwynwyd traddodiadau i Brydain megis naddu pwmpenni a'r trick-or-treat bondigrybwyll, sef galw o gwmpas tai yn mynnu arian neu felysion.
Parhau i esblygu mae Calan Gaeaf - gŵyl sydd yn ymwneud o hyd â'r meirw a'r goruwchnaturiol, ond heb os, y cynnydd yn ei phwyslais ariannol a masnachol yw'r elfen fwyaf brawychus iddi heddiw!
Cafodd yr erthygl yma ei chyhoeddi'n wreiddiol yn 2015
Hefyd o ddiddordeb: