Adran Dau: Casnewydd 1-2 Salford
- Cyhoeddwyd
Colli fu hanes Casnewydd adref yn erbyn Salford ddydd Sadwrn.
Gêm gymharol gyfartal oedd hi er fod Casnewydd yn ymosod yn gyson.
Salford gafodd y rheswm cyntaf i ddathlu - daeth gôl o ben Cameron Burgess wedi cic gornel gan Conway.
Ymhen chwe munud, yn ystod yr amser ychwanegol ar ddiwedd yr hanner cyntaf daeth cic gornel i Gasnewydd ac fe wyrodd y bêl i'r rhwyd oddi ar Nathan Pond, amddiffynnwr Salford.
Roedd hi'n 1-1 ar hanner amser.
Naw munud oedd wedi mynd o'r ail hanner pan enillodd Salford gic rydd yn hanner Casnewydd - daeth y bêl i'r blwch cosbi lle roedd Lois Maynard ac fe beniodd y bêl i gornel uchaf gôl Casnewydd.
Wrth i'r ymwelwyr fynd ar y blaen roedd Casnewydd yn parhau yn ymosodol a chafwyd cic o'r smotyn ond fe arbedodd Howard y gic gan Abrahams.
Salford felly yn fuddugol o ddwy gôl i un.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Hydref 2019