Nid yw'r felin heno'n malu
- Cyhoeddwyd
Mae 'na ddau reswm y mae sylwebyddion fel finnau i gyd mor amharod i broffwydo canlyniad etholiad 2019.
Un o'r rheiny yw'n profiad yn ystod etholiad 2017, yr etholiad yr oedd e'n amhosib i Theresa May ei golli nes iddi bron a gwneud hynny. Y rheswm arall yw un y gwnes i grybwyll yn y post diwethaf sef anwadalrwydd system bleidleisio cyntaf i'r felin mewn system amlbleidiol.
Nawr mae trafod systemau pleidleisio gan amlaf yn rhywbeth sydd ond yn diddori anaraciaid a Democratiaid Rhyddfrydol ond mewn gwirionedd mae cyfundrefn bleidleisio yn tueddu i liwio'r cyfan o'n gwleidyddiaeth ni ac mae gan bob system ei manteision a'i hanfanteision.
Manteision mawr system cyntaf i'r felin yw ei bod hi'n tueddu i gynhyrchu llywodraethau mwyafrifol a chau allan pleidiau eithafol boed y rheiny'n bleidiau asgell dde fel y Ffrynt Cenedlaethol neu'r BNP neu'n rhai asgell chwith fel y Comiwnyddion neu Respect.
Mae'n debyg y byddai system San Steffan wedi parhau i wneud hynny pe na bai ddeddfwrfeydd eraill wedi eu sefydlu oedd yn defnyddio systemau pleidleisio gwahanol.
Cymerwch UKIP fel enghraifft. Yn ystod holl hanes y blaid dim ond ar un achlysur y llwyddodd y blaid i ennill sedd seneddol mewn etholiad cyffredinol a hynny yn Clacton yn 2015, chwarter canrif ar ôl i'r blaid gael ei sefydlu.
Mae'n bur debyg y byddai'r blaid wedi diflannu ymhell cyn hynny pe na bai'r Undeb Ewropeaidd, o bawb, wedi cynnig peiriant cynnal bywyd iddi trwy orfodi i Brydain fabwysiadu system gyfrannol i ethol aelodau Senedd Ewrop o 1999 ymlaen.
Tan ei chwalfa ddiweddar defnyddiodd UKIP ei statws yn Senedd Ewrop a'r holl adnoddau oedd yn deillio o hynny i geisio tanseilio'r union sefydliad oedd yn ei hariannu. Dyna eironi democratiaeth i chi.
Yn yr un modd roedd systemau pleidleisio'r seneddau datganoledig yn fodd i'r SNP a'r Blaid Werdd fagu grym yn yr Alban ac i UKIP fwrw gwreiddiau yng Nghymru.
Canlyniad hynny oll yw bod gennym system wleidyddol sy'n amlbleidiol a system bleidleisio i San Steffan sydd ond, mewn gwirionedd, yn gweddu i system ddwy blaid.
Gallwn ddisgwyl i'r pwysau am newid gynyddu yn ystod y blynyddoedd nesaf ac os nad ydych chi'n credu bod hynny o bwys ystyriwch hwn am eiliad.
Pe bai Prydain wedi pleidleisio o blaid mabwysiadu'r bleidlais amgen yn refferendwm 2011 mae'n annhebyg iawn y byddai David Cameron wedi ennill mwyafrif yn etholiad 2015 a heb fwyafrif Ceidwadol byddai 'na ddim mwyafrif chwaeth dros gynnal refferendwm ynghylch Ewrop yn 2016.
Nid pethau bach dibwys yw systemau pleidleisio wedi'r cyfan!