Beth oedden ni'n ei wneud cyn y Gwasanaeth Iechyd?
- Cyhoeddwyd
Beth oedd pobl yn ei wneud pan oedden nhw'n sâl cyn dyddiau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol?
Os oeddech chi'n dioddef o glefyd neu salwch dros ddwy ganrif yn ôl mae'n bosib y byddech chi wedi gorfod troi at y 'Llyfr meddyginiaeth a physygwriaeth i'r anafus a'r clwyfus' - a gobeithio bod ganddoch chi rywbeth defnyddiol yn tyfu yn yr ardd.
Y llyfr yma o 1740 yw'r hynaf yng nghasgliad y Llyfrgell Genedlaethol o eitemau print am foddion cynnar a meddyginiaethau llysieuol.
Mae'n cynnwys cynghorion i bobl ac anifeiliaid am sut i wella salwch cyffredin fel annwyd, dannodd a chur pen a phethau mwy difrifol fel canser a chlefyd y galon hefyd.
Doedd hi ddim mor hawdd â phicio i'r fferyllfa ddwy ganrif yn ôl meddai Branwen Rhys, sydd yn cynnal prosiect am hanes meddygaeth a iechyd yng Nghymru yn y Llyfrgell Genedlaethol.
"Yr ardd gefn oedd y fferyllfa, a blodau a pherlysiau oedd y ffisig," meddai.
"Tasg anodd iawn oedd dod o hyd i feddyg neu ffisigwr gwerth ei halen yng Nghymru ddechrau'r 18fed ganrif, yn enwedig i'r tlawd."
Berwi 'dy ddŵr dy hun'
Roedd y cynghorion yn y llyfrau felly yn ffordd i bobl gyffredin gael moddion heb orfod teithio yn bell i dalu crocbris am help ffisigwr.
Heb dabledi cur pen wrth law mae'n ddealladwy y byddai'r hen Gymry'n fodlon mynd i drafferth mawr i gael gwared ag anhwylderau fel cur pen a meigryn (migraine).
Un ohonynt oedd: 'Cymer felynwy a blawd gwenith a gwna ê yn blastr, a dyro ar Liain wrth bob un oth dwy Arlaes (temple)'
Ond os nad oedd hynny'n gweithio, roedd 'na gynnig arall, ychydig mwy cymhleth, esbonia Branwen Rhys: "Cyngor arall ar gyfer meigryn, a dwi ddim yn siŵr faswn i'n trio hwn chwaith, ond mae eisiau cymryd dyrnaid o ddau Gribau San Ffraid (betony) wedyn berwi hwn mewn gwin gwyn neu 'yn dy ddŵr dy hun'.
"'A gwna fyr ferwad ohono, eillio'r pen yn llwm a'i olchi yn lân a'i rwbio'n dda gyda'r llysiau'."
Wedi hynny roedd angen rhoi'r gymysgedd ar ddarn o frethyn a'i adael am eich pen wrth fynd i gysgu gyda'r nos a golchi eich pen gyda'r dŵr am naw diwrnod.
Sychu llyffant
Mae un arall o gynghorion yr hen lyfr yn esbonio sut i droi llyffant yn dabled i wella asthma.
"Yn ôl yn y 18fed ganrif, roedden nhw'n cynghori i sychu a phowdrio llyffant er mwyn gwneud pils er mwyn lleddfu y fogfa, sef asthma. Dwi ddim yn siŵr faswn i'n trio hynny!" meddai Branwen Rhys.
Mae'r llyfr o 1740 yn defnyddio planhigion fel blodau neu ddail Fioled, Dant y Llew, Falerian, Cwmffri, Ffon y Bugail (Henbane) a pherlysiau eraill i wella pobl, plant ac anifeiliaid.
Roedd crefydd yn cael ei ystyried yn rhan bwysig o fywyd iach bryd hynny hefyd ac fe ysgrifennodd yr arweinydd Methodistaidd enwog John Wesley lyfr meddyginiaeth a gafodd ei gyfieithu i'r Gymraeg yn 1759, gyda'r teitl: Y Prif Feddigyniaeth, sef Physygwriaeth yr Oesoedd Gynt neu ffordd hawdd a naturiol i iachau y rhann fwyaf o Glefydau.
"Roedd John Wesley yn credu bod pwysigrwydd iachâd y corff ac enaid yr un mor bwysig. Dyna pam 'sgrifennodd y gyfrol fach yma i edrych ar ôl y corff... roedd yn llyfr poblogaidd iawn yn ei amser," meddai Branwen Rhys.
Ar gyfer annwyd yn y pen, mae'n cynnig: 'Piliwch felyn-groen Orange yn deneu. Gwnewch ef yn rholiau a'r tu fewn allan, a rhoddwch un ymhob ffroen.'"
Un arall ar gyfer gowt yn eich llaw neu'ch traed oedd: 'Rhoddwch olwyth Coch o Gig Eidion yn amrwd wrth y lle. Newidiwch ef unwaith bob deuddeg awr, hyd oni wella.'
Mêl ar gyfer gwella
"Roedd Wesley ymhell o flaen ei amser wrth bwysleisio gwerth atal afiechyd yn hytrach na dibynnu ar iachâd gan ffisigwyr a thrwy ei ddefnydd cyson o fêl am wellhad," meddai Branwen Rhys.
Mae hefyd yn sôn am bwysigrwydd awyr iach, bwyta ac yfed yn gymhedrol - dŵr ffresh, deiet ysgafn, cyfyngu'r defnydd o sbeis a halen - a dwy neu dair awr o ymarfer corff y dydd!
Roedd Branwen Rhys yn trafod y casgliad meddygol sydd yn y Llyfrgell Genedlaethol ar Raglen Aled Hughes, Radio Cymru.
Ar 22 Tachwedd mae cynhadledd undydd am hanes meddygaeth yng Nghymru cyn y Gwasanaeth Iechyd yn cael ei chynnal yn y Llyfrgell ac mae hefyd arddangosfa o gasgliad meddygol y Llyfrgell.
Amcan y prosiect yw catalogio eu casgliad cyfan, sy'n cynnwys 6,500 o eitemau, a digido deunyddiau cyn 1900.
Bydd 40,000 o ddelweddau ar gael ar-lein hefyd, meddai Branwen Rhys.
Hefyd o ddiddordeb: