O ba fodd y cwymp y Cairns?

  • Cyhoeddwyd

Roeddwn i'n cyflwyno rhaglen newydd Radio Cymru 'Dros Ginio' am y tro cyntaf ddoe. Mae'n ymdrech reit gyffrous i gyflwyno gwasanaeth 'rolling news' am y tro cyntaf yn y Gymraeg.

Doeddwn i ddim wedi disgwyl i'r newyddion rolio cweit cymaint a gwnaeth hi gyda'r stori am ymddiswyddiad Alun Cairns yn torri o fewn munudau i gychwyn y rhaglen.

Doedd y cyhoeddiad ddim yn gymaint a hynny o syndod, mewn gwirionedd. Efallai y byddai ysgrifennydd Cymru wedi llwyddo i oroesi pe na bai 'na etholiad ar y gweill ond doedd sefyllfa lle nad oedd modd i fawrion y Ceidwadwyr fentro i Gymru heb wynebu cwestiynau ynghylch deiliad Tŷ Gwydyr ddim yn gynaliadwy.

Mae p'un ai y bydd Alun yn cael sefyll yn etholiad ai peidio yn fater arall. Mae'r blaid Gymreig yn ei gefnogi ond mae rhai'n ymwybodol iawn o'r hyn ddigwyddodd pan lynodd y blaid at ymgeisydd oedd â sawr sgandal yn ei gylch yn isetholiad Brycheiniog a Maesyfed.

Beth bynnag sy'n digwydd yn yr etholiad mae'n anodd dychmygu y bydd Alun yn dychwelyd i'r fainc flaen. Hyd yn oed os ydy'r ymchwiliad i'w ymddygiad yn ei glirio mae'r ffaith ei fod wedi dewis cynnal perthynas agos â Ross England am gyhyd yn codi cwestiynau ynghylch ei grebwyll gwleidyddol a phersonol.

Sut felly mae mesur ei gyfnod fe Ysgrifennydd Gwladol? Wel o leiaf fe geisiodd e wneud y swydd yn fwy gweladwy na rhai o'i ragflaenwyr yn y dyddiau er datganoli.

Ar y llaw arall, mae'n anodd peidio dod i'r casgliad ei fod wedi bod yn rhan o ymdrech i lethu ar y broses lle mae'r Cynulliad yn raddol wedi ennill grymoedd newydd ers ei sefydlu. Roedd ei bwyslais ar strwythurau traws-ffiniol, dileu tollau Môr Hafren a'i wrthwynebiad i ddatganoli trethi hedfan yn brawf o hynny. Dyw hynny ddim yn feirniadaeth, gyda llaw. Mae perffaith hawl gan unoliaethwyr i geisio cryfhau strwythurau'r undeb y mae'n credu ynddo.

Serch hynny, fe fydd Llywodraeth Cymru yn falch o weld ei gefn e ac yn gobeithio am Ysgrifennydd Gwladol sy'n fwy o ddatganolwr os ydy'r Ceidwadwyr mewn grym ar ôl Rhagfyr 12fed.

Bysai cadw un llygad ar Craig Williams yn gall, dybiwn i.