Ymgais i gadw arwydd mawr Llanrwst yn barhaol

  • Cyhoeddwyd
Arwydd LlanrwstFfynhonnell y llun, Keith Morris
Disgrifiad o’r llun,

Bydd arwydd Llanrwst yn cael ei dynnu i lawr ddydd Llun

Mae arwydd mawr sydd wedi bod yn sefyll uwch ben tref yn Nyffryn Conwy ar fin cael ei dynnu i lawr, ond mae ymgais leol i'w gadw'n atyniad parhaol.

Ddydd Llun bydd yr arwydd Llanrwst, sydd wedi'i adeiladu mewn llythrennau bras mawr tebyg i arwydd Hollywood, yn cael ei dynnu i lawr gan fod y cyfnod y rhoddwyd caniatâd iddo fod yno yn dod i ben.

Cafodd ei osod ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst ond mae yna gefnogaeth fawr yn y dref i gael rhywbeth parhaol ar y safle gan ei fod wedi denu cymaint o sylw.

Syniad y cynhyrchydd creadigol Iwan Williams oedd yr arwydd.

"Roedd gennym ni leoliad perffaith ar y bryn jest uwchben lle oedd y steddfod a'r Maes Carafanau yn mynd i fod, so pam lai," meddai.

"Mae gan Hollywood un, geith Llanrwst un."

'Cefnogaeth bositif'

Ychwanegodd: "Mae'r gefnogaeth gan bobl yn lleol a thu hwnt wedi bod yn hynod bositif a dwi'n synnu weithiau at ymateb pobl i syniad sy'n eitha' syml."

Cafodd yr arwydd ei gefnogi'n ariannol gan Gyngor y Celfyddydau a Chonwy Cynhaliol, ac yn ôl un amcangyfrif mae wedi cael ei weld filiwn o weithiau o'r A470 wrth i fodurwyr fynd yn ôl a 'mlaen rhwng Llanrwst a Betws-y-coed.

Ffynhonnell y llun, Keith Morris
Disgrifiad o’r llun,

Roedd yr arwydd i'w weld o bell ac yn amlwg i yrwyr ar ffordd yr A470

Mae'r ymateb yn y dref wedi bod yn gadarnhaol, yn enwedig gan berchnogion busnesau.

Dywedodd Karen Roberts, perchennog Siop Karen: "Mae pobl yn hoff iawn ohono fo, ac maen nhw eisiau ei gadw fo yna os oes posib."

Ychwanegodd Gary Jones, sy'n drefnwr angladdau yn y dref: "Mi faswn i'n licio ei weld o'n aros yna, neu ei roi o yn rhywle arall - mae pawb wedi cymryd ato fo a faswn i'n dweud bod o'n bwysig ei gadw fo."

'Syniad arbennig'

Yn ôl Paula Williams o siop sglodion Tir a Môr, roedd o'n "syniad bendigedig".

"Mae pawb yn lleol yn licio fo, ac mae pobl yn dal yn dod i'w weld o, so mi fasa yn neis ei gadw fo," meddai.

Ond mae rhaid i'r arwydd presennol ddod i lawr ddydd Llun gan mai caniatâd dros dro a roddwyd.

Yn ôl Mr Williams: "Dan ni mewn trafodaethau ar hyn o bryd hefo perchnogion y tir - Cyfoeth Naturiol Cymru - a hefyd hefo swyddogion Parc Cenedlaethol Eryri i weld be sy'n bosib ar gyfer y dyfodol."

Dywedodd llefarydd ar ran Cyfoeth Naturiol Cymru: "Rydym yn ymwybodol o hoffter pobl leol ac ymwelwyr i'r arwydd a bydd trafodaethau pellach yn cymryd lle gyda'r posibilrwydd iddo fod yn atyniad parhaol."