Wythnos y glas

  • Cyhoeddwyd

Pe bai Ceidwadwyr Cymru wedi cynllunio dechrau trychinebus i'w ymgyrch etholiadol go brin y bysen nhw wedi gall gwneud yn well nac maen nhw wedi gwneud.

Union wythnos yn ôl bu'n rhaid i arweinydd yr ymgyrch, Alun Cairns ymddiswyddo fel ysgrifennydd gwladol mewn amgylchiadau oedd ond yn cryfhau'r ddelwedd honno o'r Ceidwadwyr y disgrifiodd Theresa May fel y "nasty party", delwedd sy'n rhannol gyfrifol am amhoblogrwydd cymharol y Torïaid ymhlith merched a menywod.

Dyw e dal ddim yn eglur pwy fydd yn cymryd lle Alun Cairns wrth lyw'r ymgyrch yng Nghymru. Mae'n wir wrth gwrs bod Boris Johnson yn fwy o ased i'r blaid nac unrhyw un o'i gwleidyddion Cymreig ond dyw e ddim yn gallu bod ym mhobman ac fe fydd angen rhywun i gymryd rhan mewn dadleuon, ymddangos ar raglenni teledu ac yn y blaen. Ar hyn o bryd sedd wag sy 'na.

Ar ben hynny mae 'na fylchau o hyd yn rhestr ymgeiswyr y Ceidwadwyr a hynny ddiwrnod yn unig gyn i'r enwebiadau gau.

Un o'r rheiny yw Ynys Môn a ddylai fod yn sedd darged i'r blaid. Mae Mary Roberts o Lafur ac Aled ap Dafydd o Blaid Cymru eisoes wrthi'n ymgyrchu tra bod y Ceidwadwyr o hyd yn stryffaglu i ddewis ymgeisydd.

Dydw i ddim yn gwybod pwy oedd yn credu y byddai'n syniad da i enwebu Chris Davies, gwr a gafwyd yn euog o ffugio cais am gostau seneddol, ond roedd hi'n anorfod y byddai'n rhai iddo dynnu yn ôl ar ôl i'r cyhoeddiad gael ei wneud.

Unwaith yn rhagor mae cwestiynau yn cael eu gofyn ynghylch crebwyll gwleidyddol cadeirydd y blaid Gymreig, Byron Davies.

Nawr, mewn etholiad arferol fyddai hyn oll o fawr o ots. Cilfach gefn yw Cymru yn y rhan fwyaf o etholiadau.

Ond y tro hwn mae Cymru yn faes y gad allweddol. Mae angen enillion ar y Ceidwadwyr yng Nghymru i'w digolledu yn sgil colledion tebygol yn yr Alban a deheudir Lloegr.

Rwy'n amau bod 'na boeri gwaed yn swyddfa ganolog y blaid Brydeinig ynghylch stranciau Ceidwadwyr Cymru.