Cwpan FA Lloegr: Casnewydd 2-0 Grimsby

  • Cyhoeddwyd
Padraig AmondFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Padraig Amond sgoriodd gôl gynta'r gêm yn Rodney Parade

Mae Casnewydd trwodd i ail rownd Cwpan FA Lloegr wedi iddyn nhw drechu Grimsby yn Rodney Parade nos Fercher.

Roedd y gêm gyntaf rhwng y ddau dîm wedi gorffen yn gyfartal 1-1.

Yr ymosodwr Padraig Amond sgoriodd i roi Casnewydd ar y blaen wedi 50 munud, wrth iddo rwydo yn dilyn pas wych i'w lwybr gan Corey Whitely.

Cafodd Mattie Pollock ei yrru o'r maes wedi iddo weld ei ail gerdyn melyn yn y munudau olaf, cyn i Joss Labadie ddyblu mantais yr Alltudion eiliadau'n ddiweddarach.

Bydd Casnewydd yn herio Maldon & Tiptree nos Wener, 29 Tachwedd yn yr ail rownd.