Adran Dau: Casnewydd 0-1 Oldham

  • Cyhoeddwyd
Zak Mills ar ôl sgorio yn erbyn CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Siom chwaraewyr Casnewydd wedi gôl Zak Mills

Cafodd Casnewydd brynhawn siomedig wrth iddyn nhw golli yn Rodney Parade yn erbyn Oldham Athletic.

Dywedodd rheolwr Casnewydd, Mike Flynn bod y ddau dîm wedi chwarae'n wael ond bod yntau'n ysgwyddo'r cyfrifoldeb am berfformiad "dihyder" ei chwaraewyr ei hun.

Zak Mills wnaeth sgorio unig gôl y gêm a hynny reit ar ddiwedd yr hanner cyntaf.

Fe wnaeth Casnewydd chwarae ychydig yn well wedi'r egwyl ond ddim digon i boeni'r golwr, Zeus de la Paz.

Mae'r canlyniad yn golygu bod Casnewydd yn llithro dau safle yn y tabl i'r 11eg safle ar ôl colli tair gêm o'r bron yn y gynghrair.