Dafad yn creu trafferthion i yrwyr ar yr A55 ger Bangor
- Cyhoeddwyd
Roedd yna oedi i yrwyr yng Ngwynedd am gyfnod ddydd Sadwrn wedi i ddafad grwydro ar ffordd ddeuol yr A55.
Fe ddigwyddodd hynny wrth Gyffordd 11 ar gyrion Bangor tua 0900.
Roedd yn "anodd i ddal" y ddafad, yn ôl Traffig Cymru, a bu'n rhaid cau dwy lôn ddwyreiniol y ffordd am 40 munud.
Fe wnaeth swyddogion priffyrdd lwyddo yn y pen draw a chludo'r ddafad yng nghefn cerbyd cyn ailagor y ffordd.