Joe Ledley yn arwyddo i Charlton ar gytundeb tymor byr
- Cyhoeddwyd

Mae chwaraewr canol cae Cymru, Joe Ledley wedi arwyddo i Charlton Athletic ar gytundeb tymor byr.
Bydd Ledley, 32, ar gael yn syth i garfan Lee Bowyer ar gyfer eu gêm yn erbyn Middlesbrough yn y Bencampwriaeth ddydd Sadwrn.
Mae cyn-chwaraewr Caerdydd, Celtic a Crystal Palace wedi bod heb glwb ers gadael Derby County ym mis Ionawr eleni.
Yn rhan allweddol o dîm Cymru yn Euro 2016, mae Ledley wedi ennill 77 cap dros ei wlad.

Mae Ledley wedi bod heb glwb ers gadael Derby County ym mis Ionawr 2019
"Dwi'n hapus i fod yn ôl ac yn chwarae pêl-droed eto," meddai wrth wefan Charlton.
Mae tri Chymro arall - Tom Lockyer, Adam Matthews a Jonny Williams - eisoes ar lyfrau'r clwb o Lundain.
Caniatáu cynnwys X?
Mae’r erthygl yma’n cynnwys elfennau sydd wedi eu darparu gan X. Gofynnwn am eich caniatâd cyn eu llwytho, oherwydd fe allai wneud defnydd o cwcis a thechnolegau eraill. Efallai y byddwch am ddarllen polisi cwcis X, dolen allanol a pholisi preifatrwydd, dolen allanol cyn derbyn. I weld y cynnwys yma dewiswch ‘derbyn a pharhau’.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Chwefror 2019