Drama olaf C1

  • Cyhoeddwyd

Mae'r setiau i mewn, yr ymarferiadau wedi cychwyn a nos Iau fe fyddwn ni'n tanio hen stiwdio C1 yn Llandaf am ddwy raglen etholiad olaf cyn i ni symud i bencadlys newydd BBC Cymru.

Mae'r traddodiad yn dyddio yn ôl i etholiad 1983 pan ddarlledwyd rhaglen dros nos ar S4C am y tro cyntaf. Roedd hi'n rhai blynyddoedd a sawl etholiad cyn i BBC Cymru benderfynu ychwanegu rhaglen Saesneg at yr arlwy ac mae honna hefyd wedi hen ennill ei phlwy.

Mae C1 wedi gweld sawl drama ar hyd y blynyddoedd. Hi wedi'r cyfan oedd cartref gwreiddiol Pobol y Cwm, ond go brin fod hyd yn oed Reg a Megan wedi profi'r fath o densiwn ac ydyn ni'n disgwyl gweld yn yr oriau cyn i ganlyniadau arolwg John Curtice ein cyrraedd.

Beth fedrwn ni ddisgwyl felly?

Wel, mae'n ymddangos erbyn hyn bod y Ceidwadwyr yn wynebu llai o golledion yn Yr Alban, Llundain a gorllewin Lloegr nac oeddwn i ac eraill yn darogan ar ddechrau'r ymgyrch.

Mae hynny'n golygu bod angen i'r Torïaid gipio llai o seddi Llafur na'r disgwyl er mwyn sicrhau mwyafrif. Mae'n ddigon posib hyd yn oed y byddai cipio yn ôl y seddi a gollwyd yn 2017 yn ddigon i Boris Johnson groesi'r llinell derfyn.

Ond, ond, ond. Mae hwn yn etholiad od ar y naw. Does neb yn siŵr iawn faint fydd yn pleidleisio na phwy sy'n debyg o wneud, yn enwedig os oes tywydd garw.

Cwestiwn arall sy'n amhosib ei ateb ar hyn o bryd yw faint o bobol sy'n ystyried pleidleisio'n dactegol ac yn lle. Gallasai pleidleisiau o'r fath fod yn allweddol mewn sawl etholaeth, yn enwedig os ydy'r niferoedd sy'n troi mas yn fach. Peidiwch cyfri' Jeremy Corbyn mas felly.

Ar ben hynny mae 'na lwyth o ornestau unigol difyr a dadlennol yma yng Nghymru. Fe fydd ein camerâu ni ym mhob un ohonyn nhw.

Dyma wahoddiad felly. Ymunwch â Dewi Llwyd, Betsan Powys a minnau, Harri Parri, Sabrina a Dai Tushingham ein dyddiau ni, am loddest etholiadol olaf C1. Fe fydd y cyfan yn cychwyn am 21:55 ar nos Iau yn fyw ar S4C a Radio Cymru.