Chwaraewr rygbi'n cyrraedd 600 gêm dros ei glwb
- Cyhoeddwyd
Mae chwaraewr rygbi o Sir Gâr yn dathlu carreg filltir anhygoel y penwythnos hwn, wrth iddo baratoi i chwarae ei 600fed gêm dros glwb Trimsaran.
Mae Ioan Jones, neu 'Yogi Bach' i bawb sy'n ei adnabod, yn edrych ymlaen at y dathliadau.
"Bwres i 500 gêm yn 2015 a ges i barti sypreis," meddai'r chwaraewr 42 oed. "Doedd dim syniad gyda fi ond pan ddaethon ni nôl ar ôl y gêm, ro'dd y clwb yn llawn.
"Bryd hynny, nes i'm meddwl y bydden i'n bwrw'r 600.
"Fi wedi cadw'n ffit a fi wedi bod yn lwcus o ran anafiadau. Fi wedi torri garddwrn a chwpl o ribs ond dim byd cas."
Dechreuodd Ioan chwarae rygbi yn 10 oed wrth iddo dyfu i fyny'n gwylio ei dad Stuart yn chwarae.
Erbyn heddiw, Stuart yw cadeirydd Clwb Rygbi Trimsaran ac mae'r ffyddlondeb yn amlwg yn y gwaed.
Ond pam dewis chwarae ei yrfa gyfan mewn un clwb?
"Y clwb rygbi yw calon y pentre'," meddai Ioan. "Ma' pobl y clwb mor neis - cymaint o gymeriadau yno.
"'Nes i chware cwpl o weithiau i Aberafan flynyddoedd yn ôl ond ro'n i ishe bod gartre'. Ro'n i ishe bod yn ffyddlon i'r pentre'," meddai.
Cynrychioli Cymru
Mae dathliadau wedi eu trefnu ar gyfer y penwythnos yma, gydag Ioan yn cael rhedeg ar y cae gyda'i ddau fab Cai, sy'n 5, ac Elis sy'n 3.
Bydd yna barti hefyd yn dilyn y gêm ddarbi yn erbyn Cefneithin.
Mae Ioan hefyd yn rhoi teyrnged i'w wraig Catherine sydd wedi bod yn gefnogol iddo dros y blynyddoedd wrth iddo chwarae rygbi dair gwaith yr wythnos, bob wythnos yn ystod y tymor.
Mae gan Ioan nam ar ei glyw, ac mae wedi chwarae i dîm Rygbi Byddar Cymru.
Yn ôl yn 2002 bu'r tîm yn bencampwyr byd ar ôl curo'r Crysau Duon yn rownd derfynol Cwpan Rygbi Byddar y Byd allan yn Seland Newydd, ac Ioan gafodd ei enwi'n Chwaraewr y Bencampwriaeth.
Wrth ateb y cwestiwn am ba hyd y gall ei yrfa barhau, dywedodd: "Wel, nes i feddwl bo' fi ishe rhoi lan eleni, ond y drafferth yw, mae'r clwb yn dathlu 100 mlynedd tymor nesa', felly bydd rhaid cario 'mlaen!"
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd26 Ebrill 2018
- Cyhoeddwyd13 Ebrill 2015