Ateb y Galw: Nigel Owens
- Cyhoeddwyd

Yr wythnos yma tro Nigel Owens yw hi i ateb cwestiynau busneslyd Cymru Fyw wedi iddo gael ei enwebu gan Delyth Mai Nicholas.
Beth ydi dy atgof cyntaf?
Dad yn mynd a fi i'r ysgol pan o'n i tua 4 oed, doeddwn i ddim ishe mynd ac felly'n crio. Es i nôl adref gyda dad, a rhoddodd mam row i'r ddau ohonon ni a fy anfon yn ôl i'r ysgol.
Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?
Merch o Mynydd Cerrig, roeddwn i'n 5 oed ac dwi'n credu o'dd hi tua 8.
Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?
Roedd hyn yn ystod gêm rhwng De Affrica a Seland Newydd yn Johannesburg yn 2010. Ces i nhaclo rhwng Schalk Burger a Juan Smith, blaenasgellwyr De Affrica. Poenus iawn - a ma' hi i'w gweld ar YouTube yn rhywle dwi'n credu (...yndi Nigel, a dyma fo, dolen allanol!)
Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?
Mae rhywbeth i'w wneud efo poendod i anifeiliad yn fy ngwneud i grio, a'r tro dwetha' i mi grio o'dd pryd 'nath fy nghi farw ddau fis yn ôl.

Gwell gan Nigel ddelio efo ymateb y dorf i'w benderfyniadau na gweld anifeiliad mewn poen
Oes gen ti unrhyw arferion drwg?
Chwythu fy chwiban rhy aml - dyna mae eraill yn ei ddweud beth bynnag!
Dy hoff ddinas yn y byd?
Rhufain. Wrth fy modd 'da hanes ac felly mae'r ddinas 'na'n ddelfrydol i mi.
Y noson orau i ti ei chael erioed?
Pan enillodd tîm rygbi Pontyberem y Trevalley Cup yn 1993 ...a dathlu yn y clwb tan 6 neu 7 y bore.
Oes gen ti datŵ?
Na. O'n i wedi ystyried cael un ond wedi meddwl, bydde fe ddim yn fy siwtio i.
Beth yw dy hoff lyfr?
'Wind in the Willows' gan Kenneth Grahame - y llyfr gynta' i mi gael.

Anturiaethau Mr Toad a'i ffrindiau oedd y llyfr cynta gafodd Nigel, nid Llyfr Rheolau'r Bwrdd Rygbi Rhyngwladol!
Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?
Fy lucky boxers... par o drôns Superman ges i gan fy nghefndryd bach.
Beth oedd y ffilm ddiwethaf welaist di?
'Paddington' ...ac es i weld e gyda fy nghefndryd bach, cyn i chi gyhuddo fi o fod yn blentyn.
Dy hoff albwm?
Mae gen i dast eang iawn mewn cerddoriaeth, ond byddwn i'n dweud 'Back to Bedlam', albwm cyntaf James Blunt.

Mae Nigel yn sgwrsio'n rheoliadd ar raglen Tommo ar Radio Cymru
Cwrs cyntaf, prif gwrs a phwdin - beth fyddi di'n ei ddewis?
Fy mwyd delfrydol i fydde calamari i ddechre, wedyn stêc a salad fel prif gwrs a bara brith mam i bwdin.
Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?
Ffonio. Os ti moyn dweud rhywbeth wrth rywun, dwêd e yn eu gwyneb nhw neu mewn sgwrs ar y ffôn.
Pe taset yn gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?
Y Pab ...'na i adael i chi ddyfalu pam.

Byddai'r Pab yn fodlon cyfnewid swyddi gyda Nigel am y diwrnod?
Pwy sy'n Ateb y Galw yr wythnos nesaf?
Eleri Siôn