'Mor siomedig dros y merched': Mwy o honiadau am gyn-seren bêl-droed

Fe enillodd Natasha Allen-Wyatt, Harding gynt, 103 o gapiau dros Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae hyd at 70 o rieni a busnesau bellach yn honni eu bod wedi colli arian i’r cyn bêl-droediwr rhyngwladol Natasha Harding.
Y gred yw y gallai’r cyfanswm sydd wedi ei golli fod bron yn £70,000.
Mae cyn-gapten Reading, sydd nawr yn defnyddio ei chyfenw priodasol Allen-Wyatt, yn wynebu nifer o honiadau gan gynnwys cymryd arian am sesiynau hyfforddi un-i-un gyda phlant, wnaeth ddim cael eu cwblhau.
Dywedodd Ms Allen-Wyatt ei bod hi wedi gorfod canslo “rhai sesiynau” oherwydd amgylchiadau y tu hwnt i’w rheolaeth, gan ymddiheuro i’r rheiny a gafodd eu heffeithio.
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2024
- Cyhoeddwyd21 Tachwedd 2024
Ers i’r honiadau ymddangos yn gyntaf, mae rhieni a busnesau o ogledd a de Cymru, a siroedd Caerloyw a Chaerwrangon yn Lloegr, wedi dweud wrth BBC Cymru am eu profiadau hwythau gyda Ms Allen-Wyatt, gyda’r honiadau newydd yn dod i £27,000.
Yn y cyfamser mae rhiant a sefydlodd grŵp WhatsApp ar gyfer y rheiny sydd wedi’u heffeithio yn dweud bod eu cyfanswm nhw yn tua £40,000.
Mae adroddiadau wedi eu gwneud i sawl llu heddlu yng Nghymru a Lloegr, a rhai wedi eu pasio ymlaen i Action Fraud, sy’n cydlynu cwynion twyll o bob rhanbarth.
Dywedodd Action Fraud bod o leiaf un adroddiad “yn cael ei asesu ar hyn o bryd” gan y Fenter Twyll Genedlaethol.
Mae rhai o gyn gyd-chwaraewyr Ms Allen-Wyatt hefyd wedi dweud wrth y BBC fod rhai o’i gweithredoedd wedi “effeithio arnom ni, ein teuluoedd a’n ffrindiau”.
Cafodd un o’i chyn-glybiau, Manchester City, eu hannog i dorri cysylltiadau gyda hi fel sylwebydd, yn dilyn yr honiadau.

Fe wnaeth Natasha Allen-Wyatt hyfforddi merch Andy Hughes, Brooke, a rhai o'i chyd
Mae Andy Hughes yn hyfforddwr gwirfoddol gyda thîm merched dan-12 a dan-13 Neuadd Llaneurgain yn Sir y Fflint.
Dywedodd fod Ms Allen-Wyatt wedi cynnig sesiynau un-i-un i aelodau o’i dîm ar ôl iddi ymddangos ar ei bodlediad, ‘This Girl Can Play’, a chrybwyll ei bod hi eisiau ehangu ei hacademi i’r gogledd.
Fe wnaeth 12 o chwaraewyr gytuno i 10 sesiwn hyfforddi, ar gost o £280 y chwaraewr.
Ond dim ond dau floc o sesiynau gafodd eu rhoi, gyda sesiynau diweddarach yn cael eu canslo neu ohirio ar ôl i Ms Harding ddweud wrth Mr Hughes ei bod hi wedi cael dwy brofedigaeth yn y teulu.
Ni chafodd unrhyw sesiynau eraill eu trefnu, a dywedodd Mr Hughes nad oedd unrhyw ad-daliadau wedi eu rhoi.

Mae Manchester City wedi cael eu hannog i dorri cysylltiadau gyda Natasha Allen-Wyatt fel sylwebydd
“Ro'n i’n siomedig iawn, iawn,” meddai.
“I rywun sydd wedi chwarae’r gêm ar y lefel yna ac sy’n eicon i’r genhedlaeth nesaf o bêl-droedwyr benywaidd, roedd y sesiynau yma’n bwysig iawn.
“Sut ydych chi’n esbonio i ferch 11 oed nad yw un o’u harwyr mewn crys Cymru yn mynd i ddod i’w hyfforddi nhw wedi’r cwbl, a’i bod wedi eu gadael nhw lawr?
“Dwi mor siomedig fod rhywun y gwnaethon ni gyflwyno fel cyfle gwych wedi troi allan fel hyn.
"Mae’n bechod mawr achos roedd y sesiynau a roddodd hi’n dda.”

Fe roddodd Daniel Rees £500 mewn nawdd i Natasha Allen-Wyatt
Fe wnaeth Daniel Rees, sy’n rhedeg cwmni Cardiff Classic Shirts, gytuno i noddi Ms Allen-Wyatt ar ôl iddi gysylltu ag ef drwy gyfryngau cymdeithasol.
Rhoddodd £500 iddi, gydag addewid y byddai ei gwmni’n cael eu hysbysebu ar grysau ymarfer a siacedi ei hacademi am ddwy flynedd.
Dywedodd Mr Rees nad oedd wedi gweld unrhyw dystiolaeth bod hyn wedi digwydd, ac nad yw wedi derbyn esboniad gan Ms Allen-Wyatt er iddo geisio cysylltu â hi.
“Doeddwn i methu ffeindio unrhyw luniau o grysau oedd i fod wedi cael eu printio - dim ond braslun gafodd ei anfon i mi,” meddai.
“Nes i erioed feddwl y gwaethaf, jyst meddwl ei bod hi’n cael rhediad o lwc wael ac y byddai pethau’n iawn.
“I weld bod y peth mor eang nawr, mae wedi dod fel sioc i’r system.”
Cafodd Mr Rees hefyd addewid o ddau grys Gymru wedi’u gwisgo mewn gemau, ond ddaeth rheiny fyth.

Natasha Allen-Wyatt yn dathlu sgorio i Gymru yn erbyn Estonia yn Hydref 2021
Fe brynodd Kate Parker, cefnogwr Cymru brwd, sesiynau hyfforddi fel anrheg Nadolig i’w nith ar ôl gweld Academi Tash Harding ar y cyfryngau cymdeithasol.
Talodd Ms Parker, sy’n rhedeg dau dafarn yn ardal Caerffili, ragor o arian hefyd am noddi drwy’r academi a chit i’w nith, gyda’r cyfanswm yn dod i £1,335.
Ond dim ond un sesiwn ymarfer a roddwyd, gydag un arall wedi ei ganslo, ac yn y diwedd fe ofynnodd Ms Parker am ad-daliad llawn.
Dim ond £350 sydd wedi ei ddychwelyd iddi, mewn tri thaliad, gydag £885 dal yn weddill.
'Mae’n beth mawr pan chi’n blentyn'
“Roedd hi wedi addo crys Cymru i fy nith hefyd,” meddai Ms Parker. “Mae’n beth mawr pan 'dych chi’n blentyn.
“Mae’n reit swil [ei nith]. Dwi wedi bod i cwpl o’i gemau pêl-droed a dydi hi ddim yn cymryd rhan cymaint â’r lleill.
“Roedd hi’n reit drist ond fe wnaeth fy chwaer esbonio wrthi nad oedd [y sesiynau hyfforddi] yn gallu digwydd, a dyna ni.”
Fe wnaeth BBC Cymru gysylltu gyda Natasha Allen-Wyatt am ymateb i’r honiadau diweddaraf, ond ni chafwyd ymateb.