Oriel: Eira dros rannau o Gymru
- Cyhoeddwyd
Mae rhai ardaloedd o gogledd Cymru a'r canolbarth dan gwrlid gwyn ar ôl cawodydd eira dros nos.
Dyma rai o'r golygfeydd gaeafol ar ddydd Mawrth wrth i'r Swyddfa Dywydd roi rhybudd melyn am rew ac eira.

Noson oer i'r defaid yn Llanuwchllyn, Gwynedd

Golygfa o Ynys Môn o'r eira ar fynyddoedd Eryri

Golygfa gwyn yn Yr Hôb ar fore ddydd Mawrth

Fydd ddim pêl-droed yn Yr Hôb heddiw...ond mae 'na siawns am ddyn eira

Golygfa o ardal Yr Wyddgrug o'r defaid yn cadw'n glos i'w gilydd

Golygfa gwyn yn Llanfihangel Glyn Myfyr, ger Cerrigydrudion yng Nghonwy

Eira'n drwch ar ffyrdd yn Llanfihangel Glyn Myfyr

Golygfa rewllyd o Lyn Mymbyr, Capel Curig

Carped o eira yn Groes, Dinbych

Cae dan drwch o eira yn Groes

Gaeafol iawn yn Y Bala

Mae 'na rai ffyrdd ar gau yn y gogledd-ddwyrain

Gyda'r ysgolion ar gau mae 'na amser i adeiladu dyn eira yn Wrecsam...

Eira ar ganghennau'r coed
Pynciau cysylltiedig
Hefyd o ddiddordeb
- Cyhoeddwyd19 Tachwedd 2024