Cyfres yr Hydref: Cymru'n colli'n drwm i Dde Affrica
- Cyhoeddwyd
Mae record wael ddiweddar tîm rygbi Cymru yn parhau wedi iddyn nhw gael eu trechu'n gyffyrddus gan Dde Affrica yng ngêm olaf Cyfres yr Hydref.
Fe lwyddodd Cymru i adennill rhywfaint o barch gyda'u dycnwch wrth geisio cystadlu gyda thîm gorau'r byd.
Ond mae'r golled o 45 pwynt i 12 yn golygu bod Cymru wedi colli 12 gêm brawf yn olynol, sy'n ymestyn record o ran colledion.
Mae hefyd yn golygu bod Cymru wedi mynd blwyddyn galendr gyfan heb ennill prawf, a hynny am y tro cyntaf ers 1937.
Parhau felly mae'r cwestiwn a fydd Warren Gatland yn parhau fel prif hyfforddwr wrth i Gymru droi eu golygon at baratoi ar gyfer pencampwriaeth y Chwe Gwlad.
Dywedodd yntau ar ôl y gêm nad yw wedi cynnig ymddiswyddo a bod "rhaid aros i weld be sydd gan Undeb Rygbi Cymru i'w ddweud".
- Cyhoeddwyd18 Tachwedd
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd
Roedd cael canlyniad da yn erbyn pencampwyr y byd wastad yn mynd i fod yn dalcen caled, wedi'r colledion blaenorol yng Nghyfres yr Hydref yn erbyn Fiji ac Awstralia
Yn anffodus, roedd yna arwyddion pendant o'r gwahaniaeth o ran safon y ddau dîm o'r dechrau.
Daeth dau gais cyntaf y Springboks - gan Franco Mostert ac Eben Etzebeth - o fewn y 10 munud cyntaf.
Bu ond y dim i'r capten Siya Kotisi dirio ond fe gafodd ei atal rhag gwneud gan Jac Morgan.
Ond er amddiffyn arwrol Morgan a James Botham, roedd y pwysau ar Gymru'n ddi-baid.
Daeth y trydydd cais diolch i Kurt-Lee Arendze, ac roedd Aphelele Fassi yn agos iawn at gael un arall, oni bai am ymyrraeth Blair Murray a gafodd ei gymeradwyo gan gefnogwyr Cymru fel pe tae wedi sgorio cais i Gymru.
Cafodd ymdrech dan y pyst gan Kolisi ei ddyfarnu'n annilys ond wedi 35 munud o chwarae roedd Elrigh Louw wedi tirio a gyda phwytiadau trosiadau Jordan Hendrikse roedd De Affrica 0-29 ar y blaen.
Ond reit ar ddiwedd yr hanner fe wibiodd Rio Dyer gyda'r bêl heibio amddiffynwyr De Affrica i groesi'r llinell yn y gornel a sicrhau bod Cymru â phwyntiau ar y sgorfwrdd ar yr egwyl.
Methodd Sam Costelow â throsi ac ychwanegu pwyntiau, ond roedd Dyer o bosib wedi cyfiawnhau cael ei gynnwys yn y garfan wedi i Gatland ei hepgor o'r gemau yn erbyn Fiji ac Awstralia.
Yr her i Gymru wedi'r egwyl oedd ceisio sicrhau mwy o feddiant a threulio llai o amser yn eu hanner eu hunain yn erbyn tîm nerthol a chyflym sy'n pasio mor gywir.
Enillodd y tîm cartref gic gosb gynnar ond fe wnaethon nhw wastraffu'r cyfle gan ildio'r meddiant.
O fewn dim roedd Aphelele Fassi wedi sgorio pumed cais y Springboks ar ôl tirio yn y gornel.
Wedi ychydig dros awr o chwarae, daeth eu chweched - symudiad a darddodd o gic rydd gyflym o'r sgrym a Gehard Steenekamp wnaeth ei sgorio.
Doedd De Affrica ddim cweit cystal tîm yn yr ail hanner ac fe gafodd Cymru ambell gyfnod addawol.
Eto i gyd doedd dim modd atal y bwlch rhag agor ymhellach - roedd yna un cais arall i ddod gan yr ymwelwyr, y tro hwn gan Jordan Hendrikse a giciodd yn gywir wedi hynny i wneud hi'n 5-45.
Ond fe lwyddodd Cymru i leddfu siom eu cefnogwyr fymryn yn symudiadau olaf y gêm - fe wibiodd James Botham trwy amddiffyn i sgorio ail cais ei dîm a gyda throsgais Ben Thomas y sgôr terfynol oedd 12-45.
Mae Cymru nawr wedi colli 18 allan o 24 gêm brawf ers i Gatland ddychwelyd fel hyfforddwr.
Bydd angen troi'r fantol yn sylweddol cyn gêm gyntaf Cymru yn y Chwe Gwlad, ar 31 Ionawr, oddi cartref yn erbyn Ffrainc.
Wrth drafod ei sefyllfa ei hun dywedodd Gatland nad yw wedi cynnig ymddiswyddo.
Dywedodd: "Dydych chi ddim yn gwneud penderfyniad yn syth ar ôl gêm... rhaid aros i weld beth sydd gan Undeb Rygbi Cymru i'w ddweud."
Ychwanegodd: "Gawn ni weld beth sy'n digwydd yn ystod y dyddiau nesaf."