Cyhoeddi Simon Hart fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru

  • Cyhoeddwyd
Simon Hart
Disgrifiad o’r llun,

Simon Hart ydy'r aelod seneddol Ceidwadol dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro

Mae Simon Hart wedi ei benodi'n Ysgrifennydd Cymru yn dilyn buddugoliaeth y Ceidwadwyr yn yr etholiad cyffredinol yr wythnos ddiwethaf.

Mae'n olynu Alun Cairns, a ymddiswyddodd ar ddechrau'r ymgyrch etholiadol yn sgil ffrae am beth oedd yn ei wybod am ddymchwel achos llys.

Mae Mr Hart wedi bod yn aelod seneddol Ceidwadol dros Orllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro ers 2010.

Mae AS Mynwy, David Davies wedi cael ei benodi i swydd is-weinidog yn Swyddfa Cymru, ac yn ddirprwy chwip i'r llywodraeth.

Mae Mr Hart yn cael ei ddyrchafu o swydd weinidogol iau yn Swyddfa'r Cabinet.

Y disgwyl ydy y bydd adrefnu llawnach o'r cabinet yn digwydd yn y gwanwyn.

Arweiniodd Boris Johnson y Torïaid i'w buddugoliaeth fwyaf mewn mwy na 30 mlynedd yn yr etholiad, gyda mwyafrif o 80, ar ôl addo "cyflawni Brexit" erbyn diwedd mis Ionawr.

Pwy ydy Simon Hart?

Fe aeth Mr Hart i San Steffan gyda chefndir mewn materion gwledig, fel prif weithredwr Cynghrair Cefn Gwlad a chyn-feistr Helfa De Penfro.

Yn gyn-dirfesurydd siartredig (chartered surveyor), gwasanaethodd ar y meinciau cefn tan fis Gorffennaf eleni, pan gafodd ei benodi i'r swydd weinidogol iau yn Swyddfa'r Cabinet gan y prif weinidog newydd, Mr Johnson.

Roedd Mr Hart yn gefnogol i'r ymgyrch i aros yn yr Undeb Ewropeaidd yn refferendwm 2016, ond yna daeth yn arweinydd y Brexit Delivery Group.

Mae hefyd wedi bod yn galw ar fwy o ddiogelwch i ymgeiswyr ac ymgyrchwyr, gan honni fod ymosodiadau ar wleidyddion yn gyrru pobl allan o wleidyddiaeth.

Yn dilyn penodiad Mr Hart, dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ei fod yn " falch o weld Ysgrifennydd Gwladol newydd yn cael ei benodi mor gyflym.

"Rwy'n gobeithio cwrdd â fe'n fuan er mwyn trafod blaenoriaethau llywodraeth Cymru ac i sicrhau eu bod nhw'n cael eu clywed wrth fwrdd Cabinet Llywodraeth y DU," meddai.