Brad y llyfrau cochion
- Cyhoeddwyd
Pan oeddwn yn fyfyriwr ddegawdau lawer yn ôl fi oedd un o'r ychydig o fyfyrwyr Cymraeg Bangor oedd yn mynychu cyfarfodydd Undeb y Myfyrwyr neu'r undeb Saesneg fel oedd y Cymry'n tueddu i alw'r lle.
Yn wir, yr unig dro i mi sefyll mewn etholiad oedd ar gyfer sedd ar gyngor yr Undeb. Fe gollais i Leighton Andrews ac rwy dal yn ceisio dod dros y trawma!
Ta waith, roedd yr Undeb yn y dyddiau hynny o dan reolaeth y blaid Lafur ac roedd y rhan fwyaf o'r gwleidydda yn ymwneud â'r ymgiprys rhwng dwy garfan o fewn y blaid honno sef Tribune ar asgell chwith draddodiadol y blaid a Militant y garfan Drotsgiaidd oedd yn bygwth dwyn awenau'r blaid ar y pryd.
Roedd yr holl beth braidd yn blentynnaidd. Cofiaf, er enghraifft, ar un achlysur i gefnogwyr Tribune dreulio cyfarfod cyfan yn gwneud bwyelli rhew origami er mwyn atgoffa'r Trotsgiwyr o ffawd eu harwr.
Dwn i ddim am ba hyd y byddai'r ffrae wedi para pe na bai ymgeisydd annibynnol wedi trechu'r ymgeisydd Llafur i fod yn llywydd yr undeb trwy addo torri pris chips yn y cantîn pe bai'n ennill. Dyna chi sioc. Roedd gan y rhan fwyaf o fyfyrwyr mwy o ddiddordeb ym mhris sglodion na'r ddadl rhwng chwyldro parhaol ac unbennaeth y totalitariad.
Mae rhywbeth yn debyg wedi amlygu ei hun yn y rhengoedd Llafur dros y blynyddoedd diwethaf gyda gwahanol garfanau yn ymddwyn fel pe bai sicrhau grym oddi mewn i'r blaid yn fwy pwysig na sicrhau grym i'r blaid. Hynny yw, mae'r bogail syllu yn bwysicach na phris y chips.
Nawr, pam y mae unrhyw blaid yn colli etholiad mae cynnal cwest i'r hyn aeth o le yn beth pwysig i wneud. Rhaid yw canfod a dysgu'r gwersi, wedi'r cyfan.
Ond mae modd gwneud y gwaith hwnnw a bod yn wrthblaid effeithiol ar yr un pryd. Dyw ymchwilio i'ch ffaeleddau eich hun ddim yn eich rhwystro rhag tynnu sylw at ffaeleddau a methiannau'r llywodraeth.
Hynny yw tra'n llyfu ei chlwyfau ei hun mae'n rhaid i Lafur ddechrau adeiladu achos yn erbyn llywodraeth Boris Johnson. Oni wnaiff hi, fe ddaw rhywun arall i'r adwy, rhywun sy'n deall pwysigrwydd pris chips.