Adran Dau: Morecambe 2-1 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Joss LabadieFfynhonnell y llun, Athena Pictures
Disgrifiad o’r llun,

Rhoddodd Joss Labadie yr Alltudion ar y blaen wedi 14 munud

Fe gollodd Casnewydd o 2-1 yn erbyn Morecambe a gychwynnodd y dydd ar waelod Adran Dau.

Yr ymwelwyr aeth ar y blaen diolch i gôl Joss Labadie.

Ond fe sgoriodd Morecambe ddwywaith yn yr ail hanner i gipio'r pwyntiau - Cole Stockton a John O'Sullivan yn sgorio.

Mae'r canlyniad yn golygu fod rhediad diguro Casnewydd yn ymestyn i saith gêm.

Hon oedd pedwaredd fuddugoliaeth Morecambe yn unig o'r tymor.