Adran Dau: Caerwysg 1-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Caerwysg v CasnewyddFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,

Lee Martin sgoriodd unig gôl y gêm i Gaerwysg

Dim ond un gôl oedd ei angen i wahanu'r ddau dîm wrth i Gasnewydd golli oddi cartref yng Nghaerwysg ddydd Iau.

Daeth unig gôl y gêm wedi 14 munud gyda Lee Martin yn rhoi'r tîm cartref ar y blaen.

Ergyd wych gan Martin o du allan y cwrt cosbi yn hedfan heibio i Nick Townsend yn y gôl i Gasnewydd.

Fuodd bron i Jamille Matt sgorio gôl hwyr i Gasnewydd ond fe aeth ei beniad fymryn heibio'r postyn.